| |
Gobaith mewn barddoniaeth
Ar ei diwrnod olaf yn Fardd Plant Cymru yr oedd Menna Elfyn cyn brysured ag erioed - yn cyhoeddi cyfrol yn cynnwys ei barddoniaeth ei hun a cherddi gan rai o feirdd y dyfodol.
"Pwy a wyr," meddai Luned Whelan, pennaeth cyhoeddi S4C wrth gyflwyno Caneri pinc ar Dywod Euraid, "nad oes cerdd gan fardd plant y dyfodol yn y gyfrol hon."
Ac yr oedd rhai o'r beirdd ifanc hynny yn bresennol yn y digwyddiad ar faes yr Eisteddfod wedi teithio o sawl rhan o Gymru i ddarllen eu gwaith.
Yn eu canol yr oedd Menna Elfyn ei hun ar y diwrnod cyn cyhoeddi enw Bardd Plant nesaf Cymru yn arwyddo copiau o'r llyfr i'w hedmygwyr ifanc.
Dywedodd iddi fod yn flwyddyn gofiadwy ar fwy nag un cyfrif ac i'w hamryfal ymweliadau ag ysgolion a llyfrgelloedd ei hargyhoeddi fod dyfodol llewyrchus i farddoniaeth yn y Gymraeg.
Nid yn unig gwnaeth brwdfrydedd plant dros farddoniaeth argraff arni ond eu gallu i drin geiriau.
Dywedodd i'r gyfrol Caneri Pinc ar Dywod Euraid roi pleser arbennig iddi.
"Mae pob cerdd fan hyn yn talu am ei lle," meddai wrth gyfeirio at y nifer o gerddi da y bu'n rhaid eu hepgor.
"Ac yr oedd yn bleser arbennig gweld y plant yn cyfansoddi cerddi y byddai rhywun wedi hoffi eu sgrifennu ei hun," meddai.
Yn ystod ei chyfnod yn fardd plant cenedlaethol ymwelodd Menna a dwsinau o ysgolion cynradd yn cynnal gweithdai barddoni a ffrwyth llafur y gweithdai hynny ydi'r gyfol sy'n cael ei chyhoeddi gan S4C.
"Roeddwn wrth fy modd yn gweld gwreichion creadigol yn tanio. Bu'r cyfle i fod yn Fardd Plant Cymru yn gyfle unigryw i gyfathrebu gyda beirdd y dyfodol," meddai.
|
|