| |
Arian byw yng Nghrymych
Gwr a gwraig o Sir Benfro yw enillwyr gwobr yr Urdd am wasanaeth i ieuenctid eleni. Cyflwynwyd Tlws John a Ceridwen Hughes i Des a Helen Davies o Grymych ym Mhafiliwn yr Eisteddfod nos Lun.
Daeth y wobr ar yr union flwyddyn y mae Aelwyd yr Urdd y maen nhw'n ei harwain yn dathlu ei thrigain oed.
Ond prysurodd Helen a Des i ddweud nad gwobr iddyn nhw yn bersonol o0edd hon ond i' t卯m o weithwyr sydd wedi gwneud Aelwyd Crymych yn un mor arbennig dros y blynyddoedd.
Mae'r tlws yn cael ei roi bob blwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i ieuenctid Cymru.
Noddir ef gan Gerallt a Dewi Hughes yn enw eu rhieni gan mai ieuenctid a'u datblygiad oedd eu diddordeb mawr.
Wrthi drwy'r flwyddyn Bu Des a Helen yn arian byw yn ardal Crymych ers blynyddoedd lawer gan ddod yn adnabyddus drwy Gymru nid yn unig ymhlith dilynwyr Eisteddfod yr Urdd ond gweeithgareddau eraill y mudiad fel p锚l-droed a chwaraeon.
Drannoeth dyfarnu'r tlws yr oedd Des yn teithio gyda th卯m p锚l-droed yr aelwyd i chwarae mewn gornest fyd yn Llydaw.
Pwysleisiodd y ddau bwysigrwydd gynnig dewis eang o weithgareddau i bobl ifanc.
"Mae Aelwyd Crymych yn aelwyd gydol y flwyddyn. Nid un sydd yn gweithio'n unig ar gyfer yr Eisteddfod ydi hi ond mae gennym ni weithgareddau drwy'r flwyddyn," meddai Des.
'Dewch yn 么l' Un o Abercych ydi Des yn wreiddiol a Helen o Grymych. Wedi cyfnod o ddysgu yn y Trallwng ar 么l gadael coleg, dychwelodd y ddau i fyw i Sir Benfro.
A'u hap锚l i ieuenctid yr ardal yn yr Eisteddfod oedd am iddynt hwythau ddychwelyd i'w bro i godi teulu.
"Ewch ar bob cyfrif i weld y byd a theithio ond dowch yn 么l i fagu teulu, meddai Helen.
Bu'r ddau yn arweinyddion yr Aelwyd yng Nghrymych er 1972 ond Helen wedi bod yn aelod gweithgar a brwdfrydig o'r Aelwyd yn ystod y 50au a'r 60au hefyd.
Mae'r ddau wedi bod ynghlwm ag ysgrifennu scriptiau nosweithiau llawen a rhaglenni nodwedd yr Aelwyd ar gyfer Eisteddfodau'r Urdd ers blynyddoedd.
Mae Helen yn diddori'n fawr yn trefnu gwisgoedd a choluro, ac mae wedi treulio oriau yn chwilio prynu a gwnio gwisgoedd ar gyfer dr芒mau a nosweithiau llawen yr Aelwyd, yn wir hi yw 'Meistres gwisgoedd' Aelwyd Crymych.
Helen fu'n bennaf gyfrifol am wisgoedd sioeau ieuenctid Eisteddfod Bro'r Preseli 1995, a phasiant y plant yn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi 2002. Bu Helen yn mynd o gwmpas adrannau ac Aelwydydd yr Urdd yn rhannu ei dawn celf a chrefft a choluro.
Bu Des yn Gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd Bro Preseli yn 1995.
Mae Des a Helen wedi trefnu nifer o deithiau cyfnewid i Lydaw gyda'r Aelwyd hefyd, ynghyd 芒 threfnu nifer o weithgareddau amrywiol i godi arian at achosion da.
"Ni allaf feddwl am neb sy'n haeddu'r anrhydedd hwn yn fwy na Des a Helen," meddai Catrin Davies ar ran Aelwyd Crymych.
|
|