| |
Canu clodydd cynghorau
Am y tro cyntaf yn ei hanes bydd gan yr Urdd swyddfa yng Ngwent.
Ac yn 么l pennaeth y mudiad y mae'r diolch am hynny, a sawl cynllun arall, i gynghorau lleol sydd wedi bod yn cefnogi'r mudiad yn ariannol.
Meddai Jim O'Rourke: "Mae cynghorau Torfaen a Mynwy wedi cytuno i'n cynorthwyo i gyflogi Swyddog Prosiect Ieuenctid yn eu siroedd sy'n rhan o'r hen Went.
"Bydd yr Urdd yn agor swyddfa newydd ym Mhontypwl y tro cyntaf erioed i'r mudiad sefydlu swyddfda yn rhanbarth Gwent."
Tynnodd sylw hefyd at gymorth ariannol gan Gyngor Sir Caerfyrddin i benodi swyddog ieuenctid i weithio gyda phobl ifainc dros 12 oed.
"Bydd hyn yn galluogi'r Urdd i gynyddu'r nifer o weithgareddau sy'n cael eu cynnal yn yr ardal," meddai.
Yr oedd canu clodydd cyffredinol i gynghorau ddydd Mawrth gyda Si芒n Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod a'r Celfyddydau gyda'r Urdd, yn dweud na fyddai'r Eisteddfod bresennol yn bosibl heb gefnogaerth Cyngor Castell-nedd a Port Talbot.
Yn eu hachos hwy bu'r gefnogaeth mewn gweithred cyn bwysiced a'r un ariannol.
Partneriaethau o'r fath meddai Mr O'Rourke yw'r ffordd ymlaen i'r Urdd ar gyfer y dyfodol.
|
|