| |
Canu clodydd Angharad
Angharad Lewis o Bontarddulais ger Abertawe yw enillydd Tlws y Prif Gyfansoddwr yn Eisteddfod yr Urdd.
Mae'n byw ym Mangor ers pedair blynedd gan ddilyn cwrs gradd B.Mus Cerddoriaeth yn y Brifysgol yno gan radio y llynedd.
Hefyd, dilynodd gwrs ymarfer dysgu uwchradd gan fynychu ysgolion Brynrefail yn Llanrug a Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes.
Dywedodd, er ei body n chwilio am swydd ddysgu ei bod yn awyddus i barhau gydai chyfansoddi ac y bydd ennill Tlws y Prif Gyfansoddwr yn ei hysgogi yn hyn o beth.
Yn Ysgol Gynradd Pontarddulais, yr eginodd ei diddordeb mewn cerddoriaeth ac arferai ganu a chystadlu llawer o dan arweiniad y prifathro ar y pryd, Ifor Miles.
Ond yn Ysgol Gyfun Gw y dechreuodd gyfansodd dan ddylanwad ei hathrawon cerddoriaeth, Eric Jones a Meinir Richards.
Cyn Margam bu'n fuddugol am gyfansoddi dan 15 a than 19.
Dilynodd Angharad fodiwlau cyfansoddi fel rhan oi gradd dan arweiniad Pwyll ap Si么n, gan ganolbwyntio ar gyfansoddi ar gyfer ei gradd.
Mae'n canu'r delyn ar delyn deires gan gael gwersi gan Sali Wyn Islwyn ac Elinor Bennett. Bu hefyd yn aelod o G么r Cymru ac maen canu gyda Rhialtwch a ffurfiodd yn y brifysgol.
|
|