| |
Cyhoeddi crys joio Swahili
O fewn deuddydd i'r helynt iaith sydd wedi bod yn gymaint testun siarad ar Faes Margam yr oedd crysau T ar werth yn datgan "Dwi'n joio siarad Swahili."
Ac ymhlith y rhai cyntaf i brynu un oedd cyfarwyddwr yr Urdd, Jim O'Rourke!
Wrth gadarnhau wrth 91热爆 Cymru'r Byd iddo wneud hynny dywedodd Mr O'Rourke, "Ond ddim i'w wisgo'n gyhoeddus."
Ac ychwanegodd er ei fod yn canmol menter fusnes y cwmni a gyhoeddodd y crys T fod ei gydymdeimlad llwyr ef gyda'r perfformwyr a gollodd eu gwobr gyntaf oherwydd bod iaith dramor yn eu cyflwyniad.
Y cwmni a ymatebodd mor sydyn i'r digwyddiad oedd cwmni crysau T Shwl Di Mwl.
Ar y crys mae'r geiriau: Dwi'n joio siarad Swahili gyda "Dwi'n grac" yn yr iaith Swahili uwch eu pen - Nimekasirika. . "Fe wnaethom ni'r crys am ein bod yn teimlo bod yr Urdd wedi bod yn ddwl. Mae'r plant bach yn gwneud eu gorau i siarad Cymraeg ac yn cymryd rhan yn yr wyl ond maent yn cael eu gwahardd am rywbeth bach," meddai Owain, sy'n cynllunio'r crysau. . . "Dyw'r Urdd ddim wedi iwso eu pennau; yn yr achos yma a'r un pan gafodd ysgol eu gwahardd am ddefnyddio c芒n Gernyweg. Ma' nhw'n hala fi'n grac gyda'i twpdra," meddai Owain. . Ychwanegodd i'r crysau fod yn gwerthu'n dda yn barod, yn enwedig ymhlith plant Ysgol Dewi Sant a gollodd eu gwobr gyntaf mewn cystadleuaeth!
|
|