| |
Nid chwarae plant yw chwaraeon i blant
Mae pennaeth chwaraeon yr Urdd wedi apelio am arian i gyflogi swyddogion chwaraeon ym mhob un o siroedd Cymru.
Wrth dynnu sylw at bwyslais newydd yr Urdd ar chwaraeon dywedodd Gary Lewis, Swyddog Chwaraeon Cenedlaethol y mudiad, y byddai'n rhaid wrth swyddogion ym mhob rhan o Gymru os yw'r Urdd i fedru darparu gweithgareddau chwaraeon llawn ar gyfer aelodau.
Nid yn unig y mae mwy a mwy o ddiddordeb mewn chwaraeon gyda chynnydd o 40% yn aelodau'r Urdd sy'n cymryd rhan ond mae mwy o wahanol fathau o chwaraeon yn cael eu cynnig iddyn nhw hefyd yn 么l Gary.
Mae golff a rygbi merched ymhlith y perthau sydd wedi eu hychwanegu at yr hyn sydd ar gael wrth i'r Urdd gydnabod fod i chwaraeon le cyn bwysiced a gweithgareddau diwylliannol fel yr Eisteddfod yn narpariaeth y Mudiad.
Arwydd gwelodol o'r pwyslais hwnnw yw i bum swyddog chwareon gael eu penodi ers Medi diwethaf yn dilyn arolwg ar chwaraeron a gyhoeddwyd yr adeg hon y llynedd.
Penodwyd y rhain gydag arian gan y Bwrdd Iaith a'r Cyngor Chwaraeon i weithio yn y Rhondda, Sir Benfro-Ceredigion, Eryri-M么n, Dinbych-Fflint Maelor, Caerffili a Llanelli ondf apeliodd Gary am arian ychwanegol i benodi swyddogion chwaraeon ym mhob un o siroedd yr Urdd.
Eu prif waith ydi hyrwyddo chwaraeon drwyr iaith Gymraeg.
"Gwnaethpwyd hyn trwy annog gwirfoddolwyr i gymryd rhan, trefnu hyfforddiant ar gyfer gwirfoddolwyr, trefnu rhaglen gynhwysfawr o weithgareddau chwaraeon drwyr flwyddyn ar gyfer aelodaur Urdd a chydweithio mewn partneriaeth 芒 Chynghorau Sir ac Phartneriaethau Chwaraeon," meddai Gary.
Arwydd o lwyddiant y cynllun yw i 475 o blant rhwng saith ac 11 fynychu Sesiynau Blasu Golff; 1,010, Sesiynau Blasu P锚l-droed; 204, Sesiynau Blasu Criced; 1,405, Sesiynau Blasu P锚l-droed Merched
Sefydlwyd clybiau chwaraeon wythnosol gan y swyddogion gyda 19 clwb cynradd o dros 700 o aelodau ac wyth clwb uwchradd gyda chyfanswm o 159 yn eu mynychu'n wythnosol.
'Mae'n amlwg fod potensial enfawr i ddatblygu gweithgareddau chwaraeon ymysg siaradwyr Cymraeg ledled Cymru. Byddai'n braf gallu ymestyn hyn i ardaloedd eraill o Gymru yn y dyfodol," meddai Gary a oedd yn llywio pob math o weithgareddau ar faes yr Eisteddfod ym Margam.
|
|