Arddangosfa Gelf wahanol
Mae Arddangosfa Gelf a Chrefft yr Urdd wedi cael cartref arbennig ar Faes yr Eisteddfod eleni. Mae'r Urdd wedi manteisio ar Blas mawreddog Margam i gartrefu yr holl waith Celf a Chrefft.
Mae thema'r arddangosfa , Ar Wib, yn cael ei bortreadu, fel arfer, trwy nifer o arddulliau, o ffotograffiaeth, i bypedau, o luniau i emwaith. Ond mae'r profiad o gerdded trwy ystafelloedd oer ac hynafol y Plas a dod wyneb yn wyneb 芒 lliw a llun yr holl waith Celf a Chrefft yn un gwahanol.Mae'r gwaith wedi cael ei osod allan yn fwriadol, i gyfleu'r thema, gyda'r hen a'r newydd ochr yn ochr, meddai un o gynllunwyr yr arddangosfa, Aled Williams, o gwmni Project88.
Ac roedd gan y cwmni dipyn o sialens, pan gyrhaeddon nhw'r Plas.
"Roedd lot o waith gyda ni wneud pan gyrhaeddon ni , roedd rhaid rhoi y llawr i lawr, a thrawsnewid y lle yn llwyr!"
"Wnaethon ni ystyried y thema Ar W卯b, ac edrych ar Gymru a sut y mae Cymru fel cymdeithas yn mynd ar w卯b ar y foment," meddai Aled Williams. "Wnaethon ni hefyd edrych ar Bort Talbot, a gweld sut mae llawer o ffurfiau naturiol ac annaturiol yn cyfuno yn yr ardal o ran y mynyddoedd prydferth ar gweithfeydd haearn, a dyna beth rydyn ni yn trio ei gyfleu yma."
Y syniad yw fod y castell yn cyfleu'r hen a'r arddangosfa y tu mewn yn portreadu'r newydd, ac mae hyn yn amlwg iawn gyda chiwbiau mawr o gynfas gwyn yn hongian o'r to.
Mae'r arddangosfa yn brofiad aml-gyfryngol, gyda thafluniau fideo a sain i adlewyrchu'r gwaith celf, ar thema Ar W卯b.
"Mae Cwmni Project88 yn fwy cyfarwydd 芒 gweithio gyda graffeg a gwaith ffilm, ar gyfer y teledu, ac felly roedd creu'r arddangosfa hon yn fwy o sialens na'r arfer," meddai Aled Williams.
Bydd Canolfan Mileniwm Cymru yn cynnal gweithdai arlunio yn yr arddangosfa Celf a Dylunio yn ystod yr wythnos, ar arlunydd Chris Glynn yn helpu plant a phobl ifanc i baratoi dau banel bob dydd.