| |
Carioci dysgu Cymraeg
Mae'n awr yn bosib i blant ddysgu Cymraeg trwy ganu carioci. .
Ac ar faes Eisteddfod yr Urdd ym Margam cafodd dros 35 o blant rhwng saith ac 11 oed gyfle i ddangos am y tro cyntaf becyn o ganeuon carioci wedi eu cyfansoddi'n arbennig i helpu dysgwyr.
Y tu 么l i'r syniad mae Glyn Williams, Myfanwy Owen ac athrawon bro canolfan Sarn Helen, Abertawe ac fe ymunodd pedair ysgol yn y prosiect; Ysgol Iau Coedffranc, Ysgol Iau Tregwyr, Ysgol y Gnoll Castell-nedd ac Ysgol Cwmrhydyceirw, Abertawe.
Yn haf 1999 cafodd Glyn Williams o ysgol iau Coedffranc, Sgiwen, gomisiwn i ysgrifennu wyth c芒n wreiddiol yn seiliedig ar becynnau sy'n cael eu defnyddio yn yr ysgolion cynradd.
Plant ail-iaith sy'n canu ar y fideo, ac fe ddaeth cynrychiolwyr o'r ysgolion draw i'r lawnsiad er mwyn bod yn rhan o'r dathliad. Dangoswyd y fideo yn y lawnisiad, ac fe gafodd y plant gyfle i ganu gyda'r rhai ar y sgr卯n.
Mae'r pecyn yn cynnwys llyfr cerddoriaeth a geiriau, fideo, cryno ddisg, a DVD i gyd yn Gymraeg.
Mae'n rhoi cyfle i'r plant fedru dysgu Cymraeg gan fwynhau, ac mae'r g芒n Ben Bwgan Brain yn eu hannog i ddysgu'r iaith; "Dewch i siarad Cymraeg gyda ni." Yn sicr, roedd y plant i'w gweld yn mwynhau'n fawr, ynghyd 芒'r athrawon: "Roedd yn braf cael mynd allan o'r dosbarth am ychydig!" meddai Glyn Williams am yr amser a dreuliwyd yn hyfforddi'r plant.
"Mae'n anodd credu mai plant ail iaith yw'r rhain," meddai, "ac er nad ydynt yn cystadlu maent i gyd yn enillwyr ar ddiwedd y dydd."
|
|