| |
Galw mawr am sws y Ddraig
Caffi Mistar Urdd ydi un o lwyddiannau mawr Eisteddfod Margam yn 么l yr Urdd.
Ond wrth ganu clodydd camau cyntaf yr Urdd i faes arlwyo Eisteddfodol prysurodd arweinwyr y Mudiad i dalu teyrnged i hen lawiau yn y maes, cwmni bwyd Dolen.
Ond gwadwyd eu bod yn gwneud hynny oherwydd fod Mistar Urdd wedi sathru cyrn Dolen gyda'i ddiodydd a'i fwydydd rhatach.
Dywedwyd hefyd nad oherwydd cwynion gan Dolen y penderfynwyd canmol yn llaes, mewn cynhadledd i'r Wasg fore Iau, ddarpariaeth y cwmni hwnnw.
Dywedodd Cyfarwyddwr yr Urdd fod y ddau le yn darparu gwahanol safon o fwyd ar gyfer gwahanol fathau o Eisteddfodwyr gydag arbenigedd Mistar Urdd mewn te rhad mewn cwpanau polisteirin a phrydau sydyn.
"Y mae cydweithrediad hapus rhyngddom," meddai Jim O'Rorke.
Ychwanegodd i'r Urdd fentro i'r maes hwn oherwydd bod prisiau bwyd ar feysydd eisteddfod yn un o brif gwynion eisteddfodwyr mewn arolwg a wnaed y llynedd.
Wrth gwrs, mae'n ffordd hefyd i'r Urdd wneud ceiniog neu ddwy o elw trwy ddefnyddio staff sydd gan y mudiad beth bynnag gydag arbenigedd mewn gwneud bwyd.
Rhiannon Flynn, rheolwraig llety a chegin gwersyll yr Urdd yn Llangrannog oedd sy'n arwain y t卯m o weithwyr cegin anfonodd yr Urdd i Fargam.
"Rydan ni'n hynod o hapus gyda llwyddiant Caffi Mistar Urdd mae degau o filoedd o bobl wedi mwynhau prydau blasus am bris rhesymol gydol wythnos yr eisteddfod," meddai.
Ychwanegodd mai cyrri sws y ddraig a chaws pobi gyda chennin a chig moch sydd wedi bod yn mynd orau
|
|