91热爆

Explore the 91热爆
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod yr Urdd - 2003

91热爆 91热爆page
Cymru'r Byd

Urdd 2003
O'r Maes
Lluniau
Cefndir
Cysylltiadau


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
O fochyn pinc i Gladiator

Yn wahanol i lawer o lywyddion Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd doedd llywydd ddydd Iau ddim yn un a ddisgleiriodd ar lwyfan y Brifwyl.



Ond dywedodd Betsan Rees i'r Urdd newid ei bywyd hi yn llwyr.

Eglurodd y ferch a fu'n yn gwneud propiau ar gyfer y Gladiator a chymysgu gyda phersonoliaethau blaenllaw fel Russell Crowe a Peter Stringfellow i ennill gwobr gelf yn Eisteddfod yr urdd fod yn drobwynt yn ei bywyd.

"Doeddwn i, oedd ddim yn academaidd iawn yn yr ysgol. Dim ond average oeddwn i ond yn Eisteddfod yr Urdd dewisodd Sian Lloyd un o fy lluniau i fel yr un a hoffai orau mewn gweithdy celf ac allwn i ddim credu'r peth," meddai wrth gael ei holi gan 91热爆 Cymru'r Byd.

Betsan"Yr Urdd wnaeth i mi sylweddoli fod gen innau hefyd dalent ac y gallwch chi wneud rhywbeth heb fod yn academaidd. Fe wnaeth ennill yn yr Urdd newid fy mywyd i a rhoi hyder imi," meddai.

Ymhlith y lluniau mae'n dal i'w gofio y mae mochyn pinc mewn dillad bale a wnaeth pan yn yr ysgol gynradd.

Ychwanegodd ei bod yn dal i deimlo'n emosiynol ynglyn 芒'r hyn a ddigwyddodd.

"Mae pawb yn cael cyfle gyda'r Urdd," meddai.

Aeth Betsan sy'n dod o Drebannos ac newydd ddathlu ei phen-blwydd yn 28 yr wythnos ddiwethaf, i Brifysgol Wolverhampton. Ei gwaith cyntaf oedd ar greu Tecwyn y Tractor ar gyfer cyfres deledu.

Ar y ffilm Gladiator gyda Russell Crowe hi oedd yn cynllunio addurniadau ar gyfer gwisgoedd.

Mae gwisgoedd ganddi a welwyd ar Sex and the City yn cael eu gwerthu ar Fifth Avenue, Efrog Newydd.

Ond mae'r ferch sydd wedi profi cymaint o lwyddiant yn ei maes yn priodoli'r cyfan i'r hyder a enillodd drwy ei llwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd.
"Edallai i'r Urdd newid cwrs fy mywyd i ac na fyddwn i wedi cyflawni dim onibai am hynny ac rydw i'n dal yn emosiynol iawn ynglyn 芒'r holl beth. Yn enwedig heddiw a minnau yn llywydd y dydd," meddai.

Y mae hi ei hunan yn gweithio ymhlith pobl pobl ddifreinbtiedig fel nad ydynt hwythau yn colli cyfle y gallasai hi ei hunan fod wedi ei golli mor hawdd o beidio a disgleirio yn academaidd.

Ni fu bywyd Betsan heb ei dristwch. Collodd ei brawd dro'n 么l oherwydd canser a bu farw ei thad ychydig wedyn.

Mae'n awr yn byw yn Abertawe sydd yn adlewyrchiad o'i diddordeb mewn ffilmiau a'r celfyddydau.

"Mae thema i bob stafell. Un wedi ei sylfaenu ar Star Wars yn wyn, wyn, gyda saber lights. Y nefoedd ydi thema'r ystafell wely ac mae yna ystafelloedd eraill nad ydw i am ddweud amdanyn nhw! Meddai gan chwerthin.



Cefndir
Chwedlau'r ardal

Arlwy'r wythnos

Y Steddfod ar y wal

Maes godidog

Yn yr awyr iach a Thir na n-Og

lluniau'r wythnos
Brasgamu ym Margam (1)

Brasgamu ym Margam (2)

Brasgamu ym Margam (3)

Brasgamu ym Margam (4)

Lluniau dydd Llun

Lluniau dydd Mawrth

Lluniau o'r Eisteddfod

Lluniau dydd Mercher

Lluniau dydd Iau

Arddangosfa Celf a Chrefft

Lluniau Crysau-T

Lluniau dydd Gwener

Lluniau dydd Sadwrn

Cysylltiadau eraill


About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy