| |
Cosb iaith dramor
Mae pawb sy'n ymwneud ag eisteddfodau'r Urdd wedi cael neges gan un o benaethiaid y mudiad yn dweud wrthyn nhw am fod a'u clustiau yn agored am gystadleuwyr yn defnyddio ieithoedd ar wahan i'r Gymraeg.
Y mae hyn yn dilyn helynt ddydd Mawrth pan fu'n rhaid tynnu'r wobr gyntaf oddi ar un ysgol am iddi ddefnyddio Swahili mewn cyflwyniad Dawnsio Disgo.
Wrth ymddiheuro am yr hyn a ddigwyddodd a chydymdeimlo 芒'r ysgol mae'r Urdd wedi cydnabod mai ar y mudiad ei hun yr oedd y bai am yr hyn a ddigwyddodd.
Ac ychwanegodd Si芒n Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, y cymerir camau i sicrhau na fydd yr un peth yn digwydd eto.
"Yr ydw i wedi anfon neges at bawb i sicrhau na fydd yn digwydd eto," meddai mewn cynhadladd i'r Wasg y bore wedi'r digwyddiad.
Pan awgrymwyd iddi mai bai yr Urdd ei hun oedd i'r cystadlewyr gyrraedd prif lwyfan yr Eisteddfod gyda'r geiriau tramor yn eu cyflwyniad dywedodd: "Rwy'n derbyn hynny yn llwyr."
Ychwanegodd ei bod yn cydymdeimlo 芒'r ysgol i'r peth ddigwydd paan wnaeth.
"Pe byddem ni wedi sylweddoli yn gynt fe fyddem wedi gweithredu yn gynt," meddai.
Mae gan yr Urdd reol Gymraeg lwyr sy'n gwahardd defnyddio unrhyw iaith arall ar lwyfan y mudiad.
Yn yr union gystadleuaeth hon cafodd parti o Ysgol Penglais, Aberystwyth, a ddaeth yn fuddugol mewn eisteddfod sir ei ddiarddel am fod Cernyweg yn rhan o'r cyflwyniad.
Yr oedd yr hyn a ddigwyddodd ddydd Mawrth, yn dilyn y gystadleuaeth nos Lun, yn halen ar y briw hwnnw.
Cadarnhaodd Si芒n Eirian y bydd yr Urdd yn edrych ar y rheol hon eto ond nid oherwydd y digwyddiad hwn ond fel rhan o weithgarwch arferol yr Urdd sy'n edrych ar ei reolau a'i gystadlaethau yn gyffredinol gydol yr amser
|
|