91热爆


Explore the 91热爆

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



91热爆 91热爆page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Gofid a phryder Tsunami - gofid a phryder Cymraes
Ionawr 2005
Cymraes y bu trychineb de ddwyrain Asia yn ysgytwad arbennig iddi yw Einir Jones o Rhuthun.

Treuliodd Einir ddwy flynedd yn athrawes mewn ysgol yn Phuket, Gwlad Thai, a dywedodd iddi fod yn poeni am ei ffrindiau yno ers clywed am y trychineb a dinistr y tonnau.

"Mae'n wlad boblogaidd iawn gyda thwristaid ac yn lle hyfryd. Mi dreuliais i ddwy flynedd yn dysgu mewn ysgol yn Phuket ac ers hynny dwi wedi cadw cysylltiad â rhai o Brydain sy'n byw yn y wlad yn ogystal â rhai o'r ynyswyr," meddai.

Einir Jones"Ar y dechrau, wedi imi glywed y newyddion, dwi ddim yn meddwl iddo fy nharo mewn gwirionedd pa mor ddifrifol oedd y sefyllfa yn Ne Asia.

"Es i ar y cyfrifiadur a gweld bod popeth yn chaos a gyrru a derbyn e-bostiau cyn sylweddoli bod y sefyllfa mor ddychrynllyd yno.

"Dwi wedi derbyn e-byst gan ffrindiau sydd i gyd yn iawn diolch i'r drefn , ond does wybod am y bobl oeddwn i'n eu cyfarch bob dydd. Mae na gymunedau wedi eu difetha yn lân a rhai bobl wedi colli popeth, mae'n andros o drist."

A hithau wedi gweithio mewn ysgol breswyl bu tynged y plant y bu'n eu dysgu dros gyfnod o ddwy flynedd yn destun pryder arbennig i Einir.

"Mae'n anodd iawn cael unrhyw fath o gysylltiad gyda'r wlad gan ei bod yn andros o brysur yno ar hyn o bryd, ond dwi wedi derbyn neges sydd yn dweud bod pawb yn yr ysgol, yr athrawon a'r disgyblion yn iawn, ac wedi deall hynny o wefan yr ysgol hefyd.

"Er i hynny fod yn rhyddhad dwi heb glywed am y rhai sydd â chysylltiad a'r ysgol fel y gyrwyr bws a gweithwyr cyffredinol a dwi heb dderbyn unrhyw wybodaeth ynglŷn â nhw eto.

"Mae'n anodd dygymod â'r sefyllfa ar adegau," ychwanegodd.



DifrodEr bod nifer yn teithio i dde Asia i helpu yn dilyn y trychineb dywed Einir nad dyna ei bwriad hi.

"Petawn i'n nyrs mi fuaswn wedi hel fy mhac yn syth ond mae hi'n anodd iawn gwybod be di'r gorau ond dwi'n teimlo y buaswn yn fwy o drafferth nag o werth," meddai.

Gyda lluniau o'r trychineb ar y teledu bob nos dywed Einir ei bod yn anodd edrych ar y lleoedd y bu hi'n ymweld â nhw yn gyson yn deilchion a'r ardal hardd i gyd wedi ei chwalu.

"Mae'n frawychus gweld y llefydd ar y teledu a gweld sut mae'r holl le wedi newid. Does na ddim byd ar ôl. Dwi'n meddwl am yr ynyswyr yn gorfod wynebu'r dyfodol a cheisio rhoi y lle yn ôl ar ei draed."

Lowri Rees fu'n holi Einir Jones



cysylltiadau




asia
asia
> China
> Hong Kong
> India
> Pacistan
> Siapan
> Taiwan

Tsunami - gofid a phryder Cymraes

Nepal - ail ymweliad

Nepal - cymorth artistiaid

O Gymru i'r Himalaya

Deng niwrnod yn Ne Korea

Sri Lanca: Ffau'r teigrod

Teigrod Tamil - Cwestiwn ac ateb



About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy