91热爆


Explore the 91热爆

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



91热爆 91热爆page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Sri Lanca: Ffau'r teigrod
Gwion Lewis, arbenigwr ar faterion rhyngwladol yn trafod gwleidyddiaeth Sri Lanca wedi'r tsunami

Ionawr 2005

Cwis Nadolig hwyr:
Pwy neu beth yw'r Tamil Tigers?

Na phoenwch os nad ydych chi'n gwybod yr ateb, doedd gan Jamie Oliver ddim syniad ychwaith.

Pan wisgodd y cogydd grys-T ac arno'r geiriau hynny y llynedd, ychydig a wyddai y byddai'n rhaid iddo ymddiheuro'n gyhoeddus yn fuan wedi hynny.

Arwydd y TeigrodEr tegwch ag ef, o edrych ar y dilledyn llachar, gellid maddau i unrhyw un am gredu mai tîm pêl-droed Americanaidd oedd y Teigrod, yn hytrach nag un o fudiadau gwleidyddol mwyaf dadleuol Sri Lanca.

Ond dyma fudiad sy'n cael sylw eto yn dilyn y tsunami erchyll yn ne-ddwyrain Asia ar Ragfyr 26.

Am ennyd, 'roedd hi'n ymddangos y byddai'r dinistr yn dofi'r Teigrod, a'u gorfodi i gymodi â llywodraeth swyddogol Sri Lanca - llywodraeth sydd wedi bod yn elyn pennaf iddyn nhw ers bron i chwarter canrif.

Ond wrth i'r gwaith dyngarol fynd rhagddo, mae adroddiadau cyson fod y gwrthdaro'n dwysáu, gan fygwth yr ymdrechion i fynd â bwyd a dŵr glân i'r rheiny a ddihangodd rhag y tonnau mawr.

Cefndir
Ers peth amser, mae lleiafrif Tamil o draddodiad Hindŵaidd wedi sefydlu ei hun yng ngogledd a dwyrain Sri Lanca.

Cafwyd y mewnfudiad mwyaf pan oedd Prydain yn rheoli'r wlad dan yr enw Seilon - Ceylon yn Saesneg - pan yrrwyd cannoedd o weithwyr Tamil yno o'r India i weithio yn y planhigfeydd te a choffi.

Ond gwlad Fwdaidd yw Sri Lanca yn ei hanfod, ac yr oedd llawer o'r cymunedau brodorol Sinhalaidd yn gandryll mai tramorwyr oedd yn elwa'n bennaf ar adnoddau naturiol eu gwlad.

Pan ddaeth Seilon yn wlad annibynnol a chael enw newydd, daeth y Sinhaliaid yn fwyfwy cenedlaetholgar ac fe gafwyd ymateb yr un mor rymus gan y gymuned Tamil, gyda mwy o alw am hunan-lywodraeth ac annibyniaeth.

Teigrod Tamil Buan y daeth y protestio'n dreisgar ar y ddwy ochr, gyda mudiad a elwid y Teigrod Tamil yn dod i amlygrwydd drwy yrru hunanfomwyr i ganol torfeydd y brifddinas, Colombo.

Gydol yr wyth a'r naw degau, ychydig iawn o ymwelwyr tramor fentrodd i'r Sri Lanca newydd wrth i'r rhyfel cartref rygnu yn ei flaen, gan ladd dros 60,000 a gorfodi oddeutu miliwn i ffoi o'u cartrefi.

Heddiw
Daeth cadoediad yn 2002 â llygedyn o obaith wrth i'r Teigrod addo y bydden nhw'n rhoi'r gorau i'w hymgyrch pe byddai Colombo yn derbyn cynllun datganoli uchelgeisiol ar gyfer y gogledd a'r dwyrain.

Aeth y llywodraeth cyn belled â chytuno i rannu grym â'r Teigrod ond nid oedd hynny'n ddigon. Daeth y trafodaethau heddwch i ben yn Ebrill 2004 heb sicrhau cytundeb rhwng y ddwy ochr.

Ar ddechrau 2005, mae'r cadoediad yn parhau yn swyddogol ond mae'n fwy bregus nag erioed o'r blaen.

Arlywydd Sri Lanca - Chandrika KumaratungaCwyn ddiweddaraf y Teigrod yw fod llywodraeth Colombo yn amddifadu'r ardaloedd Tamil o gymorth dyngarol yn dilyn y tswnami, a'u bod nhw'n cymryd mantais o'r drychineb i yrru milwyr llawdrwm Sinhalaidd i ardaloedd lle nad oes croeso iddyn nhw.

Mae'r llywodraeth yn gwadu'r honiadau ac yn dweud fod popeth yn cael ei ddosbarthu'n deg drwy'r wlad gyfan.

Mae'r fyddin hithau wedi taro'n ôl drwy honni fod y Teigrod wedi rhoi lloches i ffoaduriaid ar dân yn fwriadol - celwydd llwyr, meddai'r mudiad.

Y dyfodol
Nid yw'n hawdd gwahaniaethu rhwng y gwir a'r gau wrth eistedd o flaen cyfrifiadur yma'n y Gorllewin.

Yn un peth, ychydig iawn o ohebu sydd wedi bod o'r ardaloedd Tamil oherwydd mai ar yr arfordir deheuol y mae'r prif drefi twristaidd yr effeithiwyd arnynt.

Dagrau pethau yw mai ein rhoddion ni sy'n debygol o wthio'r ddwy ochr dros y dibyn unwaith yn rhagor.

Mae'r Teigrod yn mynnu mai nhw ddylai glustnodi arian o'r gronfa dramor ar gyfer ail-godi pentrefi'r gogledd a'r dwyrain.

Dyma'r union beth nad yw Colombo yn ei ddymuno, gan y byddai'n galluogi'r Teigrod i gryfhau eu gafael ar eu rhan hwy o'r wlad.

Yn yr argyfwng brawychus, annisgwyl, rhyfeddol hwn, ymddengys nad yw gweithred ddaionus, hyd yn oed, yn dda i gyd.

Dolennau











cysylltiadau






asia
asia
> China
> Hong Kong
> India
> Pacistan
> Siapan
> Taiwan

Tsunami - gofid a phryder Cymraes

Nepal - ail ymweliad

Nepal - cymorth artistiaid

O Gymru i'r Himalaya

Deng niwrnod yn Ne Korea

Sri Lanca: Ffau'r teigrod

Teigrod Tamil - Cwestiwn ac ateb



About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy