Fore Gwener, Ebrill 30 2010, yn ei gartref yn y Gaiman bu farw'r Bonwr Virgilio Zampini.
Efallai nad yw ei enw mor gyfarwydd ag y dylai fod i ni yng Nghymru ond gan ei fod yn ŵr preifat iawn ac efallai'n swil o'r ffaith nad oedd yn ystyried ei Gymraeg yn ddigon da i'w siarad â ni'r Cymry ychydig ohonom gafodd y fraint o'i adnabod.
I bobl y Wladfa, fodd bynnag, roedd yn un o ddynion pwysicaf ei gyfnod, yn amlwg mewn sawl cylch ac yn ennyn parch ac edmygedd ble bynnag y byddai.
O ochr ei fam, Eurwen Davies, roedd yn Gymro anghydffurfiol, ond o ochr ei dad, y meddyg Héctor Virgilio Zampini, roedd yn Babydd o dras Eidalaidd.
Fe'i ganed yn Buenos Aires ond yn Gaiman y magodd ef a'i wraig Albina eu tri phlentyn, a'u magu i siarad Cymraeg.
Mae'n ddiddorol mai Mary, ei ferch, agorodd yr Ysgol Feithrin Gymraeg yn y Gaiman a threulio deufis yng Nghymru heb unrhyw nawdd, er mwyn ei galluogi i wneud hynny.
Addysgwr, yn anad dim arall, oedd y Bonwr Zampini a threuliodd flynyddoedd yn athro mewn ysgolion a cholegau.
Roedd yn llenor a hanesydd, ac yn ymddiddori'n fawr yn hanes a llenyddiaeth talaith Chubut gan gyhoeddi ffrwyth ei lafur fel bod y di-Gymraeg yn dod yn ymwybodol o'u treftadaeth.
Bu'n gyfarwyddwr Diwylliant y dalaith, yn llywydd Cymdeithas Gymraeg hanes a diwylliant Camwy, ac yn aelod o fwrdd llywodraethol Astudiaethau Hanes, ymhlith pethau eraill.
Yn enillydd Coron Eisteddfod y Wladfa, bu hefyd yn llywio'r seremoni honno am nifer o flynyddoedd.
Ymhlith ei amryw gyhoeddiadau mae Chubut, breve historia de una provincia Argentina (Chubut, hanes byr talaith yn Ariannin).
Bu'n gefnogol iawn i ail sefydlu Coleg Camwy ac ef fu'n bennaf gyfrifol am greu'r Amgueddfa yn y Gaiman, dau sefydliad holl bwysig yn hanes y Gymraeg yn Chubut.