Y frwydr yn erbyn HIV yn Nicaragua
Rheoli lledaeniad HIV yw un o'r sialensau mwyaf sy'n ein wynebu fel dynolryw ar hyn o bryd.
Eisoes, mae 40 miliwn o bobl y byd yn HIV positif.
Mae dros 60 y cant ohonynt byw ar gyfandir Affrica, ac mewn rhai gwledydd, mae cymaint ag un o bob pump oedolyn yn HIV positif.
Nid yw HIV wedi cyrraedd lefel epidemig yn Nicaragua. Yn ôl yr ystadegau swyddogol, tua 0.2 y cant o'r boblogaeth (tua 5,600 o bobl) sy'n byw gyda'r firws.
Cyflymach mewn gwledydd tlawd Serch hynny, mae'r firws yn gwasgaru gyflymaf mewn gwledydd tlawd - oherwydd diffyg addysg ynghyd â diffyg cyfleusterau a chyflenwadau meddygol - a chan fod mwyafrif poblogaeth Nicaragua yn blant a phobl ifanc, mae perygl gwirioneddol y gallai HIV ledaenu'n gyflym yno dros y chwarter canrif nesaf.
Os yw HIV am gael ei reoli yn effeithiol yn Nicaragua, rhaid codi ymwybyddiaeth ynglŷn â'i natur a'i beryglon.
Un o'r cyrff sydd wedi sylweddoli hyn yw'r Eglwys Lutheraidd. Mae ILFE (Eglwys Lutheraidd - Ffydd a Gobaith) yn gorff o 40 o bobl sy'n cynrychioli holl eglwysi Lutheraidd Nicaragua. Cafodd ei sefydlu ym 1990 a daeth yn bartner i Gymorth Cristnogol y llynedd.
Dyletswydd y Cristion Cred ILFE y dylai codi ymwybyddiaeth ynglŷn ag HIV fod yn un o flaenoriaethau Cristnogion yn y gymdeithas a dadleua fod y gwaith hwn wedi ei wreiddio'n gadarn yn nysgeidiaeth y Beibl.
Yn ôl Esgob Victoria Cortes, Pennaeth yr Eglwys Lutheraidd yn Nicaragua, nid cosb ar yr unigolyn yw HIV. Pwysleisia fod Duw yn caru pawb yn ddiwahân.
Dyma sy'n arbennig am waith ILFE. Mae sawl mudiad seciwlar yn ceisio codi ymwybyddiaeth ynglŷn â HIV yn Nicaragua, ond yr Eglwys Lutheraidd yw'r corff eglwysig cyntaf i weithio yn y maes.
Rhoi'r gwaith mewn cyd-destun Cristnogol yw'r cam cyntaf yng nghynllun ILFE. Fe'i dilynir gan drafodaeth bellach ar HIV fel firws, ei drosglwyddiad o un person i'r llall, ei gysylltiad â rhywioldeb, a chwestiynau ynglŷn â hawliau dynol.
Mae gweithgaredd ILFE yn cynnwys cynnal gweithdai, perfformio dramâu a chynhyrchu llenyddiaeth berthnasol.
Ariennir y rhain gan gyfraniadau oddi wrth gefnogwyr Cymorth Cristnogol.
Eraill yn dangos diddordeb Ers i'r gwaith ddechrau, mae eglwysi eraill hefyd wedi cymryd diddordeb yng ngwaith ILFE. Maent yn cynnwys Mormoniaid, Mennoniaid ac eglwysi Efengylaidd.
Hyd yma, mae arweinwyr yr Eglwys Gatholig, oherwydd eu dysgeidiaeth ar ddulliau atal-cenhedlu, wedi bod yn gyndyn i drafod lledaeniad HIV yn Nicaragua ond cafwyd awgrym yn ddiweddar y gallai'r Eglwys newid ei safbwynt ar y mater hwn yn y dyfodol agos.
Dengys y sefyllfa yn Nicaragua pa mor ddylanwadol y gall yr eglwysi fod yn y frwydr yn erbyn HIV ac y mae gwaith ILFE yn enghraifft o'r modd y gall Cristnogion, trwy fynd i'r afael a phroblemau'r byd cyfoes, newid agweddau a chynnig arweiniad yn y gymdeithas.
|