Un o effeithiau tlodi yn Nicaragua yw bod plant yn gorfod gweithio i ennill eu cynhaliaeth.
Yn y trefi a'r dinasoedd, gwelir plant yn gwerthu nwyddau a byrbrydau ar y stryd neu'n cnocio ffenestri ceir, sydd wedi stopio wrth oleuadau, i ofyn am fwyd.
Mae Movimiento Comunal de Matagalpa (MCM), un o bartneriaid Cymorth Cristnogol, yn cadw canolfan gymdeithasol i blant sy'n gweithio ar y stryd yn ninas Matagalpa.
Mae tua 120 o blant ar gofrestr y Ganolfan, y rhan fwyaf ohonynt rhwng wyth a 15 oed.
Gweithio, gorffwys a chwarae
Dyluniwyd y Ganolfan fel y gallai'r plant dreulio hanner eu diwrnod yno. Mae ynddi dair prif ystafell, pob un â phwrpas arbennig ei hun - gweithio, gorffwys a chwarae.
Geilw'r plant eu hunain yn Las Hormiguitas - Y Morgrug Bach - enw sy'n cyfleu i'r dim holl brysurdeb trefnus y ganolfan.
Wrth gamu i mewn i'r adeilad, gwelwn arwyddion o weithgarwch ym mhob man. Yr oedd lluniau a phosteri ar y waliau, llyfrau ar y silffoedd, plant yn darllen, rhai yn lliwio, ac eraill yn crwydro o un ystafell i'r llall.
Wedi i ni weld pob ystafell yn ei thro, ymgasglodd y plant ar gyfer y cyngerdd i'n croesawu.
Fe'm cyflwynwyd i aelodau pwyllgor etholedig y plant a cawsom ddawns draddodiadol gan rai o ferched y ganolfan.
Yr oedd yr holl berfformwyr yn siarad yn huawdl ac yn gwbl gyfforddus o flaen cynulleidfa.
Arian Cymorth Cristnogol Ariennir y Ganolfan hon gydag arian oddi wrth gefnogwyr Cymorth Cristnogol. Nid yw llywodraeth Nicaragua yn barod i'w hariannu am nad yw'n credu fod y canlyniadau'n ddigon amlwg yn y tymor byr ond does gen i ddim amheuaeth bod y Ganolfan yn gwneud gwahaniaeth pwysig i fywydau'r plant a welsom.
Yn chwech oed Bûm yn siarad â Novia Rodriguez, merch 16 oed sy'n gwerthu byrbrydau a goginir gan ei mam.
Clywodd am y ganolfan pan oedd yn chwech oed a dechreuodd ei mynychu.
Dywedai i ymaelodi â'r grŵp dawnsio fod yn ddihangfa iddi, yn enwedig oddi wrth ei gwaith cartref!
Hi oedd yn gyfrifol am chwilio am ddawnswyr newydd i ymuno â'r grŵp.
Gallai Novia dystio bod y Ganolfan yn ehangu gorwelion y plant ac yn rhoi cyfle iddynt ddysgu sgiliau newydd a chryfhau y cyfeillgarwch sydd rhyngddynt.
O ystyried y bydd nifer o'r plant hyn yn treulio gweddill eu hoes yn ardal Matagalpa, mae cyfraniad y Ganolfan i'r gymuned leol hefyd yn sicr o ddod yn amlwg gydag amser.
|