Nid trychinebau naturiol yn unig sydd wedi arwain at dlodi yn Nicaragua. Fe'i hachosir gan ffactorau dynol yn ogystal.
Bu'r wlad o dan unbeniaeth lwgr am y rhan fwyaf o'r ugeinfed ganrif ac er y cafwyd chwyldro ym 1979, etifeddodd y llywodraeth ddyled o $1.6 biliwn.
Ni wnaethpwyd llawer i leihau'r ddyled hon yn ystod y 1980au. Yn wir, bu'n rhaid benthyg ychwaneg o arian er mwyn buddsoddi mewn addysg, gwasanaethau iechyd ac amaethyddiaeth.
Gwario ar ryfel Ar ben hynny, fe wariodd y llywodraeth yn drwm ar y rhyfel yn erbyn y gwrth-chwyldroadwyr (Contras). Rhwystrwyd datblygiad yr economi hefyd gan embargo y Taleithiau Unedig ar fewnforion i'r wlad.
Erbyn 1994, yr oedd dyledion llywodraeth Nicaragua wedi cynyddu i $11 biliwn.
Wrth geisio sefydlogi'r economi yn y 1990au, nid oedd dewis gan lywodraeth Nicaragua ond galw am gymorth y Gronfa Ariannol Gydwladol (IMF) a Banc y Byd.
Er mwyn cydymffurfio â chanllawiau'r sefydliadau hyn, bu rhaid i'r llywodraeth leihau gwariant cyhoeddus a rhyddhau ei gafael ar adnoddau a gwasanaethau'r wlad trwy eu trosglwyddo i ddwylo preifat.
Bellach, mae'r banciau, diwydiant a'r cyflenwad trydan, a llu o wasanaethau eraill a oedd unwaith yn nwylo'r llywodraeth, o dan reolaeth cwmnïau preifat.
O ganlyniad i hyn, mae costau byw y bobl gyffredin wedi cynyddu mewn blynyddoedd diweddar.
Preifateiddio dŵr Tra'n ymweld â Nicaragua, clywais lawer am gynllun y llywodraeth i breifateiddio'r gwasanaeth dŵr - datblygiad a fyddai'n sicr o arwain at gynnydd ym mhris dŵr ac at gynnydd pellach yng nghostau byw i bobl sydd eisoes mewn tlodi.
Er i Fanc y Byd gytuno i faddau 80 y cant o ddyled Nicaragua o dan ei gynllun i roi cymorth i wledydd tlawd sydd mewn dyledion mawr, ac er iddo ddatgan ar ddechrau 2004 y byddai'n cynnig benthyciad o $75 miliwn i ariannu prosiectau i leihau tlodi, mae'n ymddangos mai datblygiadau fel preifateiddio'r gwasanaeth dŵr sy'n cael y dylanwad mwyaf uniongyrchol ar fywydau y bobl ar lawr gwlad.
Ar 22 Mawrth 2006, sef Dydd Dŵr y Byd (World Water Day), sefais ysgwydd wrth ysgwydd gyda phobl ardal Matagalpa mewn rali i wrthwynebu cynlluniau'r llywodraeth i breifateiddio'r gwasanaeth dŵr.
Roedd yno bobl o San Dionisio, lle bûm yn gweld ffynnon a adeiladwyd dan nawdd Cymorth Cristnogol.
Ymgasglodd tua 2,000 o bobl yn nhref Matagalpa i leisio eu protest, a deuai'r mwyafrif ohonynt o gymunedau tebyg i'r rhai y buom yn ymweld â hwy dros y deuddydd blaenorol.
Serch hynny, wrth i'r tymhorau droi'n fwyfwy eithafol a thra bod y llywodraeth yn parhau i roi blaenoriaeth i'r economi dros anghenion y bobl, ni allwn beidio â theimlo bod tynged y cymunedau hyn yn nwylo grymoedd a oedd y tu hwnt i'w rheolaeth.
Bygythiad pellach Mae Cytundeb Masnach Rydd Canolbarth America (CAFTA) yn fygythiad pellach i bobl a chymunedau Nicaragua.
Os caiff ei derfynoli eleni, bydd CAFTA yn diddymu pob gwahanfur masnachol rhwng y Taleithiau Unedig, ar y naill law, a El Salvador, Honduras, Guatemala, Costa Rica a Nicaragua, ar y llaw arall.
Daeth CAFTA i rym yn Nicaragua ar 1 Ebrill 2006 - ychydig ddyddiau wedi i mi ddychwelyd i Gymru. Bydd y cytundeb hwn yn siŵr o gyflymu'r broses breifateiddio ac arwain at ddylifiad o gynnyrch rhatach o wledydd cyfagos - dau ddatblygiad a fyddai'n andwyol i ffermwyr cyffredin yn Nicaragua.
Wrth ystyried y bygythiadau hyn y dechreuais sylweddoli fod mwy o werth i'r prosiectau a welais yn Nicaragua na'r manteision a ddeuai o ddefnyddio'r bont yn El Molino Sur neu'r ffynnon yn San Dionisio.
Er gwaethaf y bygythiad oddi wrth newidiadau yn yr hinsawdd naturiol a'r datblygiadau gwleidyddol diweddaraf, yr oedd y prosiectau wedi gwneud i'r cymunedau hyn deimlo bod ganddynt rywfaint o reolaeth dros eu sefyllfa.
Mewn gwlad lle mae cynifer o bobl yn byw o dan amgylchiadau mor fregus, gwelwn fod yr ymdeimlad hwnnw'n werthfawr dros ben.
Cliciwch i ddarllen erthygl gyntaf Dafydd Tudur
|