|
|
Syria - y targed nesaf?
Hydref 2004 Gwion Lewis, arbenigwr ar faterion rhyngwladol yn darogan pa wlad fydd y nesaf i gael sylw gan America yn "y rhyfel yn erbyn terfysgaeth".
|
Affganistan oedd yn gyntaf; Irac, wedyn - ond tan yr hydref hwn, nid peth hawdd oedd rhagweld pa un fyddai'r drydedd wlad i gael sylw America yn ei "rhyfel yn erbyn terfysgaeth".
Wrth i'r etholiadau arlywyddol nesáu, mae un peth yn sicr: pwy bynnag fydd tenant y Tŷ Gwyn yn 2005, byddwch yn barod i glywed llawer iawn mwy am Syria.
Nid yw'n gyfrinach i Washington fod yn cadw llygad barcud ar Syria ers rhai blynyddoedd.
Mae Bush wedi ei chyhuddo sawl tro o gefnogi terfysgwyr Islamaidd ac o ddatblygu arfau hynod ddinistriol. Serch hynny, ei hymyrraeth gynyddol yn Libanus (Lebanon) sydd ar fin gwthio America dros y dibyn.
Y cefndir Gyrrodd Syria ei byddin i Libanus yn 1976 pan gychwynnodd rhyfel cartref yno. Er i'r ymladd ddod i ben yn 1990, mae oddeutu 17,000 o filwyr Syria yn dal yn y wlad.
Mae Libanus yn strategol bwysig i Syria: mae'r wlad yn ffinio â'i harchelyn, Israel, ac mae tystiolaeth bur sicr fod Syria yn cefnogi herwfilwyr gwrth-Israelaidd ar y ffin honno.
Eto i gyd, dywed Arlywydd Libanus, Emile Lahoud, ei fod yn berffaith fodlon â'r trefniant presennol, ac yn dymuno i'r Syriaid aros.
Rhethreg yw hynny, yn ôl ei wrthwynebwyr. Gwas bach Damascus yw Lahoud yn eu tyb nhw - gŵr sydd wedi prynu ffafrau gwleidyddol gan Syria drwy aberthu annibyniaeth ei wlad.
Daeth pethau i'r pen fis Awst eleni pan ddatgelwyd fod Syria'n ceisio newid cyfansoddiad Libanus er mwyn sicrhau fod Lahoud yn cael parhau yn Arlywydd. Yn ôl y cyfansoddiad gwreiddiol, ni châi neb fod yn Arlywydd am fwy na chwe blynedd, a olygai y byddai'n rhaid i Lahoud adael y Tachwedd hwn.
Er gwaethaf ymdrechion y Cenhedloedd Unedig i fynnu fod etholiad yn cael ei gynnal eleni, cafodd Syria ei ffordd. Mae mwyafrif helaeth seneddwyr Libanus wedi pleidleisio o blaid ymestyn yr arlywyddiaeth bresennol, a hynny'n dilyn honiadau fod rhai wedi derbyn galwadau ffôn bygythiol gan Syriaid blaenllaw.
Cymar annisgwyl America Nid America yw'r unig wlad sy'n gandryll ynglŷn â'r datblygiad diweddar hwn. Yn eironig ddigon, y ddraenen fwyaf yn ystlys Washington cyn yr ymosodiad ar Irac - Ffrainc - sy'n arwain ymdrechion yn y Cenhedloedd Unedig i alw ar Syria i dynnu allan o Libanus unwaith ac am byth.
Am gyfnod ddechrau Medi, 'roedd hi'n ymddangos fod y cynllun yn gweithio. Daeth datganiad o Ddamascus fod milwyr yn dechrau gadael prifddinas Libanus, Beirut, ac yn dychwelyd i Syria.
Erbyn hyn, nid yw'n ymddangos fod hynny wedi digwydd. Yn ôl Kofi Annan, Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, mae Syria wedi gwrthod rhoi amserlen iddo yn nodi'n union faint o filwyr fydd yn gadael Libanus a phryd.
O ganlyniad, mae si ar led fod y Pentagon yn ystyried ymosodiad milwrol ar Syria'r flwyddyn nesaf, a hynny er gwaethaf yr ansicrwydd ynglŷn â phwy fydd wrth y llyw yn Washington bryd hynny.
Dywed eraill fod ymosodiad yn bur annhebygol oherwydd yr angen i roi trefn ar bethau'n Irac, ac mai gweithredu'n ddirgel a wna America yn y pen draw.
Ond ai ar America'n unig mae'r pwysau i weithredu yn yr achos hwn?
Mae polisi tramor Syria, drwy herio'r Undeb Ewropeaidd yn ogystal â'r Unol Daleithiau, yn draed moch ar hyn o bryd. Wedi blwyddyn o gael ei bychanu gan America am beidio â chefnogi'r ymosodiad ar Irac, mae Ffrainc yn awyddus i ddangos fod ganddi'r asgwrn cefn i fynd i'r afael â therfysgwyr pan yw'r amgylchiadau'n cyfiawnhau hynny.
Os yw styfnigrwydd Syria'n parhau, nid yw y tu hwnt i amgyffred rhywun o gwbl y gallai Ffrainc ymosod ar y wlad ar ei phen ei hun os yw America'n brin o adnoddau. Wedi'r cyfan, pa well ffordd o ennill ffafriaeth y Tŷ Gwyn ar ddechrau tymor arlywyddol newydd?
Beth bynnag a ddigwyddo, mae gen i deimlad nad freedom fries fydd ar y fwydlen yn Nhecsas yr adeg yma'r flwyddyn nesaf.
Cwestiynau ac atebion am Syria
Dolenni
|
|