91热爆


Explore the 91热爆

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



91热爆 91热爆page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Gwion Lewis Syria a Libanus - cwestiwn ac ateb
Gwion Lewis yn ateb rhai cwestiynau am Syria a Libanus

Cwestiwn ac ateb
Syria a Libanus

Pam fod Syria wedi gwylltio America a Ffrainc?
Mae'n ymddangos fod Syria yn anwybyddu gorchymyn y Cenhedloedd Unedig i dynnu ei milwyr allan o Libanus. Ddiwedd mis Medi, cafwyd datganiad fod Syria wrthi'n tynnu milwyr allan o'r brifddinas, Beirut, ond nid oes tystiolaeth fod hynny wedi digwydd.

Amcangyfrir fod tua 17,000 o filwyr Syria yn dal i fod yn Libanus. Ar ben hynny, mae cryn amheuaeth fod Syria wedi gorfodi seneddwyr Libanus i bleidleisio o blaid newid cyfansoddiad y wlad, er mwyn gohirio'r etholiad cyffredinol nesaf am gyfnod amhendant. Mae'r Arlywydd presennol, Emile Lahoud, yn gadarn o blaid Syria.

Pam fod milwyr Syria yn Libanus?
Gofynnodd Libanus i filwyr Syria roi trefn ar y wlad pan ddechreuwyd rhyfel cartref yno yn 1976. Parhaodd y rhyfel drwy'r wythdegau, a phan yrrodd cyn-arlywydd Syria, Hafez al-Assad, filwyr i gefnogi'r ymdrech i ryddhau Coweit, rhoddodd Washington rwydd hynt iddo roi trefn ar Libanus hefyd.
Ers hynny, mae gafael Syria ar Libanus wedi bod yn gryf, sydd wedi galluogi iddi fod yn nes yn ddaearyddol at ei harchelyn, Israel.

Beth sy'n digwydd yn y Cenhedloedd Unedig ar hyn o bryd?
Medi 2, penderfynodd Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig fod yn rhaid i bob milwr tramor adael Libanus (Penderfyniad 1559).
Ni chyfeirwyd yn benodol at Syria bryd hynny, ond mae'n amlwg mai Syria oedd dan sylw.

Hydref 1, cadarnhaodd yr Ysgrifennydd Cyffredinol, Kofi Annan, nad oedd Syria wedi tynnu ei milwyr allan o Libanus. Erbyn canol y mis, 'roedd America a Ffrainc yn paratoi cynnig arall i'w roi gerbron y Cyngor Diogelwch, y tro hwn yn enwi Syria, ac yn galw arni i ufuddhau i'r Cenhedloedd Unedig drwy adael Libanus. Mae disgwyl y bydd cryn drafod ar y cynnig hwn dros yr wythnosau nesaf.

Beth oedd ymateb Syria i sylwadau'r Ysgrifennydd Cyffredinol?
Mae Syria yn dal i honni na all Libanus wneud heb ei milwyr hi oherwydd yr ansefydlogrwydd yn y Dwyrain Canol, ac mae'n ddiolchgar i'r gwledydd sy'n gwrthod ei beirniadu. Dywed hefyd ei bod hi'n parchu annibyniaeth a sofraniaeth Libanus ac yn deall yr hyn sy'n ofynnol ohoni dan Siarter y Cenhedloedd Unedig.

Beth yw safbwynt Libanus ar hyn o bryd?
Mewn datganiad, dywedodd Gweinyddiaeth Dramor Libanus mai mater iddyn nhw a Syria yn unig yw pryd y bydd milwyr Syria yn gadael.
'Roedd y datganiad hefyd yn beirniadu'r Ysgrifennydd Cyffredinol am "anwybyddu goblygiadau'r ffaith fod Israel, yn ei dydd, wedi meddiannu Palesteina, Syria a Libanus".

Pa mor debygol yw hi y bydd yna ymosodiad milwrol ar Syria?
Yn ôl y cylchgrawn gwleidyddol Americanaidd, Newsweek, mae'r Pentagon yn ystyried ymosodiad milwrol ar Syria yn fuan.
Yn ôl eraill, mae hyn yn bur annhebyg gan fod milwyr America mor brysur yn Irac.

Golyga hyn naill ai y bydd yn rhaid i America fodloni ar ddulliau mwy dirgel o dargedu Syria neu y bydd yn rhaid i'r Undeb Ewropeaidd gymryd yr awennau, o bosibl dan arweiniad Ffrainc.



Dolenni








cysylltiadau


dwyrain canol

> Dubai
> Irac
> Israel

Syria - y targed nesaf?

Syria a Libanus - cwestiwn ac ateb

Iran - dyddiau dyrys



About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy