Cyrchoedd awyr ar Gymru
17 Hydref 2008
Dioddefodd rhai o ddinasoedd mawr ac ardaloedd diwydiannol Prydain yn enbyd gan fomio'r Almaenwyr drwy gydol yr Ail Ryfel Byd. Amcangyfrifir bod 40,000 o ddinasyddion Prydain wedi eu lladd gan y blitz gyda dinasoedd fel Llundain a Coventry yn dioddef fwyaf.
Roedd nifer yn credu bod Cymru yn un o'r llefydd mwyaf diogel ym Mhrydain ac felly penderfynodd y llywodraeth anfon degau o filoedd o ´Ú²¹³¦¾±·Éî²õ i loches yng nghefn gwlad Cymru.
Ond wnaeth Cymru ddim dianc rhag y bomio. Rhwng 19 a 21 Chwefror 1941 cafwyd tair noson o fomio trwm ar ddinas Abertawe gan ladd 230 o bobl, anafu cannoedd a dinistrio rhannau helaeth o ganol y ddinas. Bu cyrchoedd tebyg ar Gaerdydd, Casnewydd, Doc Penfro a mannau eraill ar ddechrau'r rhyfel hefyd, ond Abertawe, gyda'i phorthladd allweddol, a ddioddefodd fwyaf.
Roedd Edward John Samuel o Glydach yn gweithio yn y gwaith glo ac yn helpu gyda'r frigâd dân yn Abertawe yn ystod y cyrch ar y dref. Mae cofio'r dinistr yn y ddinas yn dal i effeithio arno hyd heddiw:
"Roeddwn i'n byw ym Mhontrhydyfen yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Y prif atgof sydd gen i o'r rhyfel yw'r bom a ffrwydrodd yn y tÅ· drws nesa ond un i ni, ar 17 Mawrth 1942.
"Mas o'r rhai oedd wedi'i claddu dan y rwbel da'th tri mas yn fyw a thri wedi marw. Yr hyn sy'n aros yn y cof ydi fod un o'r rhai a gafodd eu hachub yn enwog iawn mewn rhai mannau o Gymru, sef Ivor Emanuel. Anghofia i byth y diwrnod 'na.
"Nôl yn yr amser 'na ym Mhontrhydyfen roedd pawb yn un teulu - does neb yn gwybod pwy sy'n byw drws nesa i'w gilydd nawr.
"Roeddwn i lawr yn gwitho yn Abertawe yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Er fy mod i'n gweithio yn gwaith glo roeddwn i hefyd yn mynd mas i helpu gyda'r frigiad dân yn ystod y nos. Part timer oeddwn i, shifft o bedair awr, neu ryw 12 awr y mis. Doeddwn i ddim arno bob nos achos oedd tîm 'da ni. Roedd pympiau dŵr ar bwys yr eglwys (sy'n Gadeirlan nawr) a'r hyn fyddwn i'n ei wneud oedd symud y dŵr o un lle i'r llall.
"Yn ystod yr amser pan oeddwn i'n gweithio yn Abertawe, yn edrych ar ôl pwmp dwi'n cofio dau o blant yn dod tuag ataf: 'We have lost our parents,' medden nhw. Doeddwn i ddim yn eu nabod nhw, ond pwy ddaeth heibio ond y Salvation Army, roedden nhw'n dod â cawl o amgylch i ni. Wedes i wrthyn nhw: 'Look, these people have lost their parents'. A chware teg, dyma nhw'n mynd â'r ddau blentyn. Dwi ddim yn gwybod os ffindon nhw eu rhieni neu os oedden nhw wedi cael eu lladd.
"Cafodd cannoedd o fywydau eu colli yn Abertawe. Roedd y byd ar dân a phan rwy'n mynd i Abertawe nawr rwy'n falch i fynd oddi yna."
Un sy'n cofio Penfro yn cael ei fomio ydy Esther Rees o Benparc ger Aberteifi:
"Dwi'n cofio pan gath Penfro ei bomo. Ar y noson 'ma roeddwn i'n sefyll ar sgiw a mam yn neud fy ngwallt. Wedd cwpwrt 'da ni yn y gegin a roedd y llestri fel 'sa nhw'n mynd 'whish, whish' oddi ar y ford. Wrth gwrs, gathon ni wybod y diwrnod ar ôl 'ny fod boms wedi disgyn ym Mhenfro. Dwi'n cofio hefyd, fe grasiodd aeroplane ochr draw i'n tŷ ni - wedd hynna lan ar bwys Capel Ffynnon Beder, byti filltir falle o bentre Penparc.
"Mae dyn, still, pan chi'n clywed ryw hen plane a phethe, yn meddwl, wel jiw. Amser rhyfel roeddech chi'n clywed planes neu bombers fel roedden nhw'n eu galw nhw bryd hynny, o hyd. Dwi'n meddwl ein bod ni mewn mwy i'r pethe 'ma gan ein bod ni mor agos at Bennar a Blaenannerch ble wedd y soldiers a'r airmen."
Bu Edward Samuel ac Esther Rees yn rhannu eu hatgofion yn wreiddiol ar fws 91Èȱ¬ Cymru.
Yr Ail Ryfel Byd
Cysylltiadau'r 91Èȱ¬
Anfonwyd tri theulu nôl i fyw mewn cymuned lofaol yn Ne Cymru yn 1944.
Gogledd ddwyrain
Ffatri gemegau
Cyfrinach hen safle arfau cemegol o'r Ail Ryfel Byd ger yr Wyddgrug.
Gogledd orllewin
Straeon rhyfel
O warchod yr Arglwydd Haw Haw i suddo llongau tanfor: atgofion lleol.