Cyfweliadau Aberfan
topIn order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions
Cyfweliadau'r gohebydd Owen Edwards gyda rhai o drigolion Aberfan - cyn athrawes leol, yr Aelod Seneddol SO Davies a thad un o'r plant bach a fu farw - ddeuddydd wedi i'r domen lo lithro i lawr a a lladd 144 o bobl a phlant y pentref
Beirniadwyd rhai elfennau o'r wasg a'r cyfryngau a heidiodd yno i chwilio am stori yn y dyddiau wedi'r drychineb a chyfaddefodd Mr Edwards yn ddiweddarach ei fod yn teimlo'n anghysurus am rai o'r cyfweliadau: "Iawn i holi'r gyn athrawes," meddai. "Iawn i holi'r Aelod Seneddol SO Davies ond dwi'n dal i deimlo ychydig bach yn anniddig am holi y tad, lai na deuddydd wedi colli ei ferch fach 10 oed ... Ein bod ni'n ymyrryd yn y galar ac yn gwneud rhywbeth cyhoeddus ohono." (Heddiw Ddoe, 07 Medi 1982).