Aberfan: Atgofion Gweinidog
topMae'r Parchedig D. Ben Rees yn cofio un o drychinebau gwaethaf Cymru, dyma ei brofiad ef yn Hydref 1966.
"Roedd hi 'n ddiwrnod bwrw glaw m芒n ac ar draws y dyffryn gwelais un ambiwlans ar 么l y llall yn mynd i fyny'r ffordd heibio gomin Cil fynydd am gwm Merthyr. Yn sydyn daeth bwletin ar y radio i ddweud fod yna 'state of emergency' yn Aberfan. Neidiais i'r car modur ac i fyny am Merthyr Vale ac Aberfan, mewn gwirionedd, mae'r ddau bentref yn un.
Gweinidogaethwn yn Abercynon a Phenrhiwceibr ond rhoddwyd cyfrifoldeb yn gynharach y flwyddyn honno i mi am gapel Disgwylfa, Merthyr Vale.
Cyrhaeddais Ysgol Pantglas a sylweddoli fy mod ynghanol un o'r trychinebau mwyaf a welwyd erioed yn hanes Cymru.
Cyrhaeddais Ysgol Pantglas a sylweddoli fy mod ynghanol un o'r trychinebau mwyaf a welwyd erioed yn hanes Cymru. Yr oeddwn yn cyrraedd yr un pryd 芒 channoedd o lowyr o bwll Merthyr Vale gyda'i rhawiau i geisio dod o hyd i'r plant a'r athrawon a oedd o dan dunelli o wastraff glo gwlyb. Sylweddolwyd yn syth nad oedd gennym ddim byd wrth law ond dwylo a rhawiau a fod y gwastraff glo mor drwm ac anhylaw.
O fewn awr a chwarter, wel erbyn 11 o'r gloch, yr oedd y plant byw olaf wedi eu tynnu allan, ac erbyn i Cledwyn Hughes, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a ffrind da i mi, gyrraedd, yr oeddem yn gwybod fod 144 o bobl, gan gynnwys 116 o blant, wedi'u lladd. Adnabyddwn rhai o'r plant a'r athrawon. Yn wir roedd y Brifathrawes Miss Jennings a laddwyd yn y stydi, yn chwaer i Ysgrifenyddes Ysgol Uwchradd Mynwent y Crynwyr - lle roedd Meinwen ar y staff a minnau yn gaplan answyddogol i'r athrawon a'r plant.
Yr oeddwn yn bresennol yn yr angladd a gynhaliwyd ar 27 Hydref ar gyfer 82 o'r rhai farw lle y cawsom gyfle i gydymdeimlo 芒'r teuluoedd galarus a gyda thrigolion Aberfan a Merthyr Vale.
Ar 9 Awst 2006 daeth llu o atgofion yn 么l i mi o ymweld 芒'r aelodau yn y strydoedd serth a'r croeso mawr a gawn ac am arwriaeth gymaint o bobl wyneb yn wyneb 芒'r drychineb. Anodd credu pa mor ynfyd y bu'r Bwrdd Glo yn yr argyfwng. Hanner can punt o bunnoedd y teulu oedd eu cynnig cyntaf ac fe'i codwyd ar 么l i nifer ohonom brotestio'n chwyrn i bum can punt. Roedd y Bwrdd Glo yn anghyfrifol ym mhob rhyw fodd ac yn ceisio setlo'r mater heb orfod talu dim byd.
Lluniais y penderfyniad canlynol a'i osod ger bron Henaduriaeth Dwyrain Morgannwg i'w gadarnhau. Anfonwyd ef at y Prif Weinidog Harold Wilson: "Yr ydym ni fel trigolion De Cymru wedi ein syfrdanu gan brofiad chwerw Aberfan, yn erfyn ar y llywodraeth i ryddhau arian ar unwaith i sicrhau diogelwch holl byllau glo a bod deddfwriaeth yn cael ei threfnu i reoli a gwaredu'r ysbwriel hwn yn effeithiol."
Ar argymhelliad y cerddor John Haydn Phillips, awdur y d么n Bro Aber, penderfynodd Capel Presbyteraidd Aberfan i brynu organ newydd yn goffadwriaeth am y plant a gollwyd yn y drychineb a oedd yn aelodau o'r capel, plant y bum yn eu plith droeon, yn dweud stori'r efengyl ar fore Sul.
Teimlwn yn ddiolchgar i'r hanesydd, yr Athro John Gwynfor Jones, Caerdydd am ei lafur yn paratoi cyfrol swmpus ar Hanes Henaduriaeth Dwyrain Morgannwg 1876-2005 (Caerdydd, 2006) ac am y paragraff hwn sy'n llefaru cyfrolau am ein gofal caredig a derbyniol. Dyma'r ychydig frawddegau i gloi fy ymateb ar 么l deugain mlynedd (gweler t.279)
"Wedi'r gyflafan fawr yn Aberfan ar 21 Hydref 1966 mynegwyd cydymdeimlad dwys yn y Cyfarfod Misol yn Jerusalem, Ynys y-bwl yn Rhagfyr, a diolchwyd i'r Parchg. E. Lewis Mendus am ymweld 芒'r trigolion dros y Gymdeithasfa a'r Henaduriaeth ac i'r Parchg. E. Peris Owen a D. Ben Rees am eu gwasanaeth hynod ymhlith y teuluoedd yn ystod y drychineb."
Parhawyd y gwasanaeth hyd nes i mi symud i Lerpwl yn niwedd mis Mehefin 1968 ac i Peris Owens symud i Dreorci ac yn ddiweddarach i Awstralia lle yr hunodd dair blynedd yn 么l.
D. Ben Rees
Ysgrifennwyd yr erthygl hon yn wreiddiol yn 2006, i nodi deugain mlynedd ers trychineb Aberfan.