Cestyll y Brenhinoedd
02 Chwefror 2009
Er bod gan frenhinoedd Lloegr nifer o broblemau dyrys, megis eu perthynas 芒'r Alban, Ffrainc, y Pab a'r barwniaid, byddai'n rhaid rhoi sylw i Gymru o dro i dro.
Byddai ambell i gastell y barwniaid yn dod i'w dwylo o dro i dro megis Penfro, Caerdydd a Chasnewydd, ond er i bron bob un o'r brenhinoedd ddod i Gymru i ryfela rywdro neu'i gilydd, ni fu neb ohonynt yn adeiladu castell newydd sbon hyd y gwyddys nes i Henry III yn 1223 ymgymryd 芒 chastell newydd Trefaldwyn ar graig uchel uwchben y bwrdeistref a chastell Hen Domen.
Newidiodd y cyfan wedi i Edward I ddychwelyd o'r Wlad Sanctaidd yn 1274. Yn ddyn ifanc, roedd wedi dysgu gwersi milwrol caled gan Llywelyn ap Gruffudd; pan wrthododd hwnnw ddangos ufudd-dod i'r brenin, na chwaith dalu ei ddyledion, byddai Edward yn si诺r o ddial.
Yn sgil ei ryfel llwyddiannus yn 1277-78, cyfyngwyd arglwyddiaeth Llywelyn i Wynedd is Conwy, a dechreuodd Edward gomisiynu cadwyn o gestyll i'w gyfyngu: Aberystwyth, Buallt, Fflint a Rhuddlan. Yn sgil marwolaeth Llywelyn a chwymp Gwynedd yn 1282-83, daeth ail gadwyn: Conwy, Caernarfon a Harlech, heblaw cryfhau Cricieth. Y diweddglo fu cychwyn Biwmares yn 1295 wedi gwrthryfel Madog ap Llywelyn.
Pwrpas pennaf Edward oedd sicrhau na fyddai'r Cymry fyth yn codi mewn gwrthryfel, ac i'r perwyl fe greodd fwrdeistrefi yng nghysgod pob un o'i gestyll, gyda muriau amddiffynnol. Roedd y trefi hyn yn fannau masnachol, yn ganolfannau gweinyddu cyfiawnder ac yn ynysoedd o Seisnigrwydd.
Un o'r nodweddion amlycaf o gynllun Edward yw bod mwyafrif helaeth y cestyll ar lan y m么r, lle roedd yn hawdd sicrhau cyflenwad o fwyd petai'r Cymry'n ymosod ac yn gwarchae'r safle. Bu Edward yn ddoeth yn sicrhau gwasanaeth meistr Ewropeaidd adeiladwaith cestyll, sef James o Saint George, i lunio mwyafrif ei gestyll Cymreig, a hynny ar gost aruthrol.
Mwy
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.