Castell Buallt
17 Mawrth 2009
Codwyd castell mwnt-a-beili uwchben man croesi ar afon Gwy cyn 1100 gan Philip de Breos, yr arweinydd Normanaidd cyntaf i dreiddio i ddyffryn uchaf Gwy. Fe'i dinistriwyd gan yr Arglwydd Rhys yn 1168, ond daeth eto'n eiddo teulu de Breos.
Wedi cyfnod ym meddiant y brenin John, daeth erbyn 1230 yn eiddo Llywelyn Fawr, ond dychwelodd y Saeson yn 1242. Erbyn 1260, os nad yn gynt, roedd yn gastell carreg, ond ni wyddwn pwy fu'n gyfrifol am y newid. Pan oresgynnodd Edward I y rhan helaethaf o Gymru yn 1277, ail-luniwyd y castell yn sylweddol fel rhan o'i gadwyn o gestyll o gwmpas Gwynedd, i gadw trefn ar Lywelyn ap Gruffudd a Gwynedd.
Yn nyddiau olaf Llywelyn ap Gruffudd yn 1282 roedd y tywysog wedi dod o'i loches yn Eryri i ardal Buallt, efallai yn y gobaith ofer y byddai pobl yr ardal yn ymuno gydag ef a'i fyddin. Ar 11 Rhagfyr roedd Llywelyn, am ryw reswm anhysbys, ar wah芒n i'w filwyr pan ymosododd y Saeson arnynt yn fuddugoliaethus nepell o afon Irfon.
Wrth i Lywelyn frysio i'r frwydr fe'i lladdwyd gan nifer o Saeson na wyddent pwy oedd y tywysog. Torrwyd ei ben a'i yrru i Edward yn Rhuddlan, ac wedyn i Lundain i arddangos ar bolyn haearn ar y T诺r Gwyn. Cedwir cof am farwolaeth Llywelyn yn y gofeb urddasol iddo ger pentref Cilmeri, ryw 4 cilomedr i'r gorllewin o Lanfair-ym-Muallt ar yr A483.
Bu castell Buallt dan warchae eto yn ystod gwrthryfel Madog ap Llywelyn yn 1294, ac eto yn ystod gwrthryfel Owain Glynd诺r; ni wyddom beth oedd dyddiadau'r ymosodiad, ond yn 1409 roedd y castell yn cael ei drwsio. Ni cheir s么n amdano yn ystod y Rhyfeloedd Cartref.
Ar 20 Rhagfyr 1691 dinistriwyd tref Llanfair-ym-Muallt mewn t芒n, a chredir i holl gerrig y castell gael eu defnyddio i'w hail-adeiladu; serch hynny mae'n bur debyg bod llawer o'r cerrig eisoes wedi cael eu dwyn.
Mwy
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Mwy
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.