Castell Dolwyddelan
11 Chwefror 2009
Saif castell Dolwyddelan mewn man trawiadol uwchben dyffryn Lledr, a'r Wyddfa a'i griw yn gefndir ysblennydd iddo. Mynnai traddodiad mai hwn oedd lle geni Llywelyn Fawr yn 1173, ond cychwyn adeiladu'r castell yn hytrach na chael ei eni ynddo wnaeth Llywelyn.
Mae Dolwyddelan yng nghanol cantref Nantconwy a thad Llywelyn, sef Iorwerth Drwyndwn, yn arglwydd arno. Mae adfeilion castell yn îs yn y dyffryn, a elwir Tomen Castell, a oedd o bosib yn lle geni'r tywysog.
Llywelyn, mae'n bur debyg, adeiladodd y tŵr mawr hirsgwar a welir o'r ffordd islaw, a hynny er mwyn gwarchod y hen ffordd dros y bwlch i gantref Ardudwy. Mae amrywiaeth barn ynghylch pwy fu'n gyfrifol am y tŵr arall, gyda rhai ysgolheigion yn ffafrio Llywelyn ap Gruffudd ac eraill o blaid Edward I.
Roedd milwyr Edward wedi meddiannu'r lle erbyn Ionawr 1283, a hwythau'n gwisgo dillad gwyn er mwyn symud trwy'r eira heb fod yn rhy amlwg. Trwsiwyd rywfaint ar y castell gan y Saeson, ond hyd y gwyddys ni welodd unrhyw ymosodiad yng ngwrthryfeloedd Madog ap Llywelyn nag Owain Glyndŵr.
Yn 1488 prynwyd Dolwyddelan gan Maredudd ab Ieuan ap Robert. Roedd yn awyddus i ddychwelyd at ei wreiddiau yn y fro, ond cafodd fod yr ardal yn ddigyfraith; ni allai fynd i'r eglwys newydd a gododd yn Nolwyddelan heb warchodlu.
O dipyn i beth fe ddadfeiliodd y castell, a daeth yn wrthrych artistiaid o Loegr a'r tu hwnt yn ystod y mudiad Rhamantaidd. Erbyn 1848 roedd wedi ei etifeddu gan yr Arglwydd Willoughby de Eresby, ac efe fu'n gyfrifol am adfer tŵr mawr Llywelyn ap Iorwerth i'w gyflwr presennol.
Mwy
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Mwy
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.