![Castell Cricieth](/staticarchive/0623b244fc2a8c1a719d9a29422b7d8c15694164.jpg)
Castell Cricieth
05 Chwefror 2009
Cychwynnwyd y gwaith adeiladu ar gastell Cricieth yn y 1230au, gan Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr), er bod peth ansicrwydd pa rannau o'r castell oedd yn rhan o ddatblygiadau pellach gan Edward I neu Llywelyn ein Llyw Olaf .
Mae ysgolheigion wedi trafod llawer ar hanes datblygu castell Cricieth. Y farn ddiweddaraf, eiddo'r diweddar Richard Avent, arbenigwr ar hanes cestyll yng Nghymru ac yn enwedig cestyll y Tywysogion Cymreig, yw mai gwaith Llywelyn Fawr a'i 诺yr Llywelyn ap Gruffudd yw swmp yr adeiladwaith, ond bod nifer o welliannau yn waith Edward I a'i fab Edward II.
Prif ddefnydd y castell am gyfnodau o'i hanes oedd fel carchar. Yma y carcharwyd Gruffudd ap Llywelyn Fawr a'i fab Owain gan y tywysog Dafydd ap Llywelyn yn 1239. Yn 1259 bu Maredudd ap Rhys Gryg o Ddeheubarth yn garcharor yma. Yn 1296 gyrrodd Edward I garcharorion o'r Alban i Gricieth, a bu'r lle'n garchar yn gyson hyd ei ddinistrio gan Owain Glynd诺r.
Yn ystod ail ryfel Cymreig Edward I yn 1282-83 cipiwyd castell Cricieth gan y Saeson. Yn dilyn y fuddugoliaeth cryfhaodd Edward y castell gyda datblygiadau a gwaith adeiladu pellach. Cwblhawyd y gwaith ar y castell gan Edward oddeutu 1292, ond ddwy flynedd yn ddiweddarach dioddefodd ei warchae cyntaf gan y gwrthryfelwyr Cymreig, dan arweiniad Madog ap Llywelyn, oedd yn gyfyrder i Lywelyn ap Gruffydd.
Chwaraeodd lleoliad strategol y castell wrth lan y m么r ran bwysig yn nycnwch y garswn, gan alluogi llongau o Iwerddon i gludo cyflenwadau pwysig i'r castell yn ystod y gwarchae.
Bu Cymro enwog yn gwnstabl castell Cricieth, sef Syr Hywel y Fwyall, oedd yn nodedig am ei wasanaeth ym mrwydrau Crecy a Poitiers. Daliodd y swydd o 1359 hyd ei farw yn 1381. Yn 么l y traddodiad, roedd lle wrth fwrdd cinio Syr Hywel i'w fwyall, gymaint oedd ei feddwl ohoni.
Dechreuodd dilynwyr Glynd诺r warchae'r castell cyn diwedd 1403. Y tro yma doedd dim cymorth na chyflenwadau i ddod mewn o Iwerddon i helpu'r Saeson, gan fod gan Glyndwr gefnogaeth llynges Ffrainc, oedd wedi eu hangori ym M么r Iwerddon. Doedd gan gastell Cricieth ddim dewis erbyn gwanwyn 1404 ond i ildio.
Fel na allai'r castell gael ei ddefnyddio fel cadarnle yn erbyn y Cymry fyth eto, dymchwelwyd y muriau gan ddilynwyr Glynd诺r a rhoi'r lle ar d芒n. Hyd heddiw gellir gweld olion y dinistr - nid yn unig o'r waliau a'r tyrrau sydd wedi eu dymchwel, ond o'r olion llosgi sydd ar rai o'r cerrig.
Mwy
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Mwy
Hanes Cymru
![Cromlech Pentre Ifanc 漏 Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru](/staticarchive/4e1150a1187c830e314ced344f498a0a0ae6de5d.jpg)
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.