Hanes Plas Erddig
topMae Plas Erddig, wedi ei leoli 2 filltir i'r de o Wrecsam, yn cyflwyno golwg unigryw o weithgareddau i 'fyny' ac o 'dan staer' stad wledig fawr.
Mae'r lloriau uchaf wedi eu llenwi â chelfi ac addurniadau gwych o'r 18ed ganrif, mae'r lloriau is a'r adeiladau y tu allan yn dangos bywyd bob dydd y gweision a'r parch mawr gâi'r rhain gan y teulu. Yn ddiweddar cafodd y tŷ ei enwi'n ail hoff blasty gan bobl, mewn cystadleuaeth, gan golli'n anrhydeddus i Chatsworth House yn Swydd Derby.
Wedi ei gynllunio gan Thomas Webb, cafodd y tŷ gwreiddiol ei orffen ym 1687, wedi iddo gael ei adeiladu i Joshua Edisbury, Uchel Siryf Sir Ddinbych. Yn fuan ar ôl iddo gael ei gwblhau bu'n rhaid i Mr Edisbury adael yr eiddo wedi iddo'i gael yn euog o ladrata. Cafodd yr adeilad wedyn ei werthu i (1665-1733), Meistr y Siawnsri ym 1718.
Ymestynnodd ac addurnodd John Mellor Erddig, ac ar ei farwolaeth fe aeth yr ystâd i'w nai, Simon Yorke, cyn i'r tŷ gael ei basio i lawr drwy'r teulu Yorke nes iddo gael ei drosglwyddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym 1973. Mae rhai o'r pethau a brynwyd gan John Mellor yn dal i addurno'r tŷ hyd heddiw; gellir gweld y gorau yn y Salwn, Ystafell y Tapestri a'r Prif Ystafell Wely.
Roedd y tŷ gwreiddiol, sy'n ffurfio naw bae canolog Erddig, yn sgwâr ac yn weddol ddiaddurn. Ychwanegwyd esgyll yn y 1720au, ac er mwyn ei amddiffyn rhag cael ei effeithio gan y tywydd, ychwanegwyd wyneb o garreg i'r ffrynt Orllewinol yn y 1770au. Yn cael ei ystyried yn weddol blaen yn bensaernïol, mae'r dodrefn y tu fewn i'r tŷ yn wych, yn dyddio o 1720-26 a chawsant eu gwneud gan wneuthurwyr celfi a chrefftwyr o Lundain.
Y Teulu Yorke
Fe wnaeth y Phillip Yorke cyntaf (1743-1804) ail ffasiynu ac ailfodelu'r tÅ·, gan gadw ac addasu ei nodweddion o'r 17eg ganrif. Yn awdur 'The Royal Tribes of Wales' (gyhoeddwyd yn 1799), fe greodd Ystafell Llwythau emblematig ar y llawr isaf, ac fe gychwynnodd draddodiad Erddig o gasglu portreadau o weision y cartref, gyda phenillion disgrifiadol arnyn nhw. Roedd yr Yorkes, ar y wyneb, yn deulu nodweddiadol yn ariannol gyfforddus, ond o dan yr wyneb roedden nhw braidd yn anghonfensiynol.
Roedd nifer yn lysieuwyr, traddodiad a gychwynnwyd gan Philip Yorke (I), a ddewisodd, y, 1749, yn bum mlwydd oed 'i giniawa'n bennaf ar lysiau'. Roedd rhai o aelodau'r teulu yn lwyrymwrthodwyr ac roedd y ddau sgweier olaf, Simon (IV) a Philip (III), yn byw bywydau braidd yn feudwyaidd ac ecsentrig.
Roedd holl aelodau'r teulu yn rhannu diddordeb mewn henebion ac roedden nhw'n archifwyr, yn casglu popeth - pa mor ddibwys bynnag. Fe gadwodd y teulu naws y tŷ hwn o'r 18ed ganrig, yn dewis peidio â dod â thrydan, nwy na dŵr i'r tŷ tan yn hwyr yn yr 20ed ganrif.
Taith o gwmpas Erddig
Caiff ymwelwyr eu cyflwyno i hanes y gweision a'u gweithdai cyn iddyn nhw ddod at brif adeilad mawr sgwâr y tŷ, gyda'i du fewn cyfoethog. Mae'r math hwn o gyflwyniad yn gosod y naws ar gyfer y stori anarferol y tu ôl i Erddig.
Mae yna nifer fawr o dai y tu allan a iardiau wedi eu ymroi i gynnal a chadw'r ystad. Roedd unrhyw waith trwsio i'r ffermdai, y bythynnod, y ffyrdd a'r pontydd yn cael ei wneud gan fformyn yr ystad a'i staff o hyd at ddeg ar hugain o weithwyr. Y staff benywaidd oedd yn gofalu ar ôl yr Iard Tai Golchi ac yno fe geid tŷ pobi, cegin fach a thai golchi gwlyb a sych. Y tu allan i iard yr ystâd mae yna golomendy sy'n dyddio o'r 18ed ganrif, ac a fyddai wedi bod yn ffynhonnell werthfawr o fwyd.
Mae ffenestr Fenisiaidd fawr a thair bwa fawr yn y Gegin Newydd - 'un o'r ystafelloedd mwyaf mawreddog yn Erddig', efallai'n adlewyrchu y parch a oedd gan Philip I at ei staff. Yn wreiddiol roedd y gegin yn sefyll ar wahân i'r prif dy mewn ymdrech i geisio lleihau'r perygl o dân, a oedd wedi dinistrio nifer o adeiladau cyfoes; erbyn hyn caiff ei gysylltu â'r prif dŷ gan floc cysylltiol, a godwyd yn y 19eg ganrif.
Albwm y 'Teulu'
Mae'r berthynas anarferol o agos rhwng y teulu â'r gweision yn cael ei ddangos gan nifer o bortreadau o'r staff, a gychwynnwyd yn y 18ed ganrif, gan barhau i mewn i'r 20fed.
Mae ffotograffau o'r staff i'w gweld ar hyd y coridor gwaelod - mae'r cynharaf o'r rhain yn ddaguerroteip (math cynnar o ffotograff) o 1852. Cafodd lluniau grŵp eraill eu tynnu ym 1887 a 1912 ac mae pennill gan Philip Yorke II (1849 - 1922) yn cyd-fynd â bob un.
Yn Neuadd y Gweision ceir nifer o bortreadau o'r staff o'r 18ed ganrif. Mae yna bortreadau o staff mewn tai eraill o'r un cyfnod, ond mae'r rhain o 'unigolion pictwresg' yn hytrach na chofnod o'r cartref, fel yn Erddig. Mae'r gyfres yn dechrau gyda'r 'Negro Coachboy', fu'n gweini John Mellor yn gynnar yn y 18ed ganrif - cafodd penillion eu hychwanegu i'r llun gan Philip Yorke I hanner can mlynedd yn ddiweddarach.
Cafodd mwy o bortreadau o weision eu cynhyrchu nag o'r teulu Yorke eu hunain. Rhwng 1791 a 1796, cafodd chwech o staff Philip Yorke I eu paentio gan John Walters o Ddinbych, gan gynnwys, ymhlith eraill, y ciper, y forwyn a'r gôf. Cafodd tri phortread eu paentio ym 1830, gyda phenillion yn cael eu hychwanegu gan Simon Yorke II am y garddwr, y saer a'r gweithiwr coed.
Mae dau gofadail arfbais anarferol, yn cofnodi bwtleriaid fu'n gweithio am gyfnod sylweddol yn y 19ed ganrif hefyd yn cael eu harddangos yn Neuadd y Gweision; câi arfbeisiau eu cadw'n arbennig i'r uchelwyr â'u arfbeisiau hwythau.
Fe barhaodd y berthynas cyflogwr/gwas tan y Rhyfel Byd Cyntaf, ac er nad oedd yn unigryw, roedd er hynny'n anarferol yn y cyfnodau Fictoraidd ac Edwardaidd. Mewn rhai plastai roedd y staff domestig yn cael eu trin yn reit wael. Mewn nifer o rai eraill roedd y gweision yn syml yn cael eu cymryd yn ganiataol.
Y Gerddi
Cafodd y parc ei dirlunio gan William Eames (1729-1803) rhwng 1768 - 1789. Mae'r ardd sydd â chlawdd o'i chwmpas yn Erddig yn un o'r rhai pwysicaf sy'n dal i oroesi o erddi'r 18ed ganrif ym Mhrydain a chafodd ei chynllunio o gwmpas camlas, ac ynddi ceir llawr Fictoraidd a llwybr ywen, yn ogystal â'r Casgliad Cenedlaethol o Iorwg.
Yn yr ardd hon â chlawdd o'i chwmpas fe geir nifer o fathau hanesyddol o afalau, gellyg, eirin a bricyll yn tyfu ar hyd ei waliau, wedi eu labelu'n ofalus ag enwau tebyg i Bon Chrétien d'Hiver (gellyg o'r 15ed ganrif hwyr) a Edelsborsdorfer (afal o'r 16ed ganrif).Cynlluniodd Eames y 'Rhaeadr Cwpan a Soser' anarferol (1774), y gellir ei gweld yn yr ardd.
Twll ynghanol disg fawr yw'r 'cwpan' - ac i hon mae nant yn llifo yn diflannu a chreu rhaeadr mewnol silindrig. Mae'r nant yn ymddangos ychydig lathenni i ffwrdd o dan fwa tebyg i bont.
Erddig yn yr 20ed Ganrif - Dinistrio ac Atgyweirio
Etifeddodd Simon Yorke (IV) yr ystâd ym 1922. Dyma ddechrau dirywiad graddol a gafodd ei gyflymu yn y '40au, o ganlyniad i gloddio yn union o dan Erddig gan y Bwrdd Glo Cenedlaethol yng Nglofa Bersham, dechreuodd yr adeilad ymsuddo'n beryglus.
Etifeddodd Philip Yorke, Sgweier olaf Erddig, y tŷ ym 1966 ar ôl i'w frawd Simon farw. Roedd Philip eisoes yn 61 oed, ond penderfynodd gysegru ei amser i achub Erddig a'i gynnwys pwysig. Ar ôl ymdrechu i atgyweirio'r tŷ, penderfynodd Philip i roi'r ystâd a'i gynnwys i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Pan gymrodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol drosodd, roedd yr adeilad eisoes wedi ei niweidio'n go ddrwg gan ymsuddo ac roedd angen cryn atgyweirio arno. Dim ond yn rhannol mae golau trydan wedi ei gyflwyno, er mwyn diogelwch a chadwraeth.
Cododd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol arian i atgyweirio ac adfer yr adeilad trwy werthu y rhan agosaf i Wrecsam fel safle adeiladu; gydag arian a dalwyd gan y Bwrdd Glo Cenedlaethol fel iawndal am y niwed a achoswyd gan y cloddio; a thrwy gefnogaeth aelodau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Y flwyddyn cyn i Philip Yorke farw, agorwyd Erddig i'r cyhoedd ar 27ain Mehefin 1977, gan Dywysog Cymru.
Yn wahanol i dai ac ystadau mawrion eraill, mae parhâd y berchnogaeth yn ogystal â diddordeb sawl cenhedlaeth o deulu Yorke, wedi cofnodi hanes cymdeithasol Erddig gyda manylion anhygoel. Mae'r ymdeimlad o gymuned a gafodd ei gynhyrchu gan y teulu a'r staff wedi ei amlygu gan y casgliad o arteffactau, gan greu'r darlun mwyaf cyflawn o fywydau gweision o dan y grisiau a geir yn y DU.
Caiff Erddig ei reoli gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a gellir dod o hyd iddo 2 filltir i'r de o Wrecsam, a cheir arwyddion o'r A525 Whitchurch Road, neu'r A483/A5152. Mae oriau agor y tÅ· a'r gerddi yn amrywio drwy gydol y flwyddyn. Galwch 01978 355314 os am fwy o fanylion am amserau agor a manylion pellach.