Llinell amser cestyll Cymru
Cliciwch ar y llinell amser a'i lusgo yn 么l ac ymlaen i ddilyn y brwydro ffyrnig dros reolaeth Cymru drwy gyfrwng hanes y cestyll a gododd tywysogion Cymru a brenhinoedd Lloegr. Cliciwch ar y digwyddiadau i ddysgu mwy.
- Adeiladu Castell Dolbadarn Llywelyn ap Iorwerth - Llywelyn Fawr - yn adeiladu Castell Dolbadarn rywdro cyn 1230 ar ben bryncyn uwchben Llyn Padarn ger Llanberis.
- Cychwyn adeiladu Castell Cricieth Llywelyn ap Iorwerth yn dechrau adeiladu Castell Cricieth yn y 1230au.
- Cipio Carreg Cennen Rhys Fychan, gor-诺yr yr Arglwydd Rhys, yn cipio Castell Carreg Cennen oddi ar y Saeson.
- Cytundeb Trefaldwyn Harri III yn arwyddo'r cytundeb sy'n cydnabod Llywelyn ap Gruffydd (Ein Llyw Olaf) yn Dywysog Cymru.
- Adeiladu Castell Caerffili Bygythiad Llywelyn yn arwain at benderfyniad Gilbert de Clare, Iarll Caerloyw a Hertford, i godi Castell Caerffili.
- Adeiladu Castell Dinas Bran Gruffudd ap Madog II, tywysog Powys Fadog, yn codi castell ar safle hen gaer o Oes yr Haearn ger Llangollen.
- Llywelyn yn ymosod ar Gaerffili Gyda'i bwerau ar eu hanterth mae Llywelyn ap Gruffydd yn ymosod ar Gastell Caerffili yn 1270 ac wedyn yn 1271.
- Rhyfel cyntaf Edward I yn erbyn Llywelyn Edward I yn cychwyn ei ryfel cyntaf yn erbyn Llywelyn ar 么l dychwelyd o'r groesgad yn 1274.
- Y Cymry'n meddiannu Castell Aberystwyth. Cyn i'r gwaith o godi Castell Aberystwyth orffen, mae'r Cymry lleol yn meddiannu castell Edward I ac yn ei ddifrodi. Ond byrhoedlog yw eu llwyddiant.
- Milwyr Edward I yn meddiannu Dolwyddelan Wedi marw Llywelyn yn 1282, mae milwyr Edward yn meddiannu hen gadarnle ei daid, Llywelyn Fawr, yn Nolwyddelan.
- Cychwyn adeiladu Castell Caernarfon Mae Edward I yn dechrau ar y gwaith o godi Castell Caernarfon ychydig fisoedd wedi marwolaeth Llywelyn ap Gruffudd.
- Cychwyn adeiladu Castell Conwy. Hefyd yn fuan wedi marwolaeth Llywelyn, mae Edward I yn rhoi gorchymyn i godi castell newydd yng Nghonwy.
- Geni Edward II yng Nghaernarfon Geni'r babi a ddeuai yn y pendraw yn Frenin Edward II yng Nghastell Caernarfon ar ganol y gwaith adeiladu yno.
- Madog ap Llywelyn yn ymosod ar Harlech Amddiffynfeydd y castell, a chyflenwadau o Iwerddon, yn llwyddo i gadw gwrthryfelwyr Madog ap Llywelyn allan o Gastell Harlech.
- Cyhoeddi Statud Rhuddlan Edward I yn cyhoeddi ei gynllun ar gyfer Cymru yng Nghastell Rhuddlan.
- Caernarfon yn syrthio i Madog ap Llywelyn Cyn gorffen adeiladu Caermarfon mae'r castell yn syrthio i ddwylo'r Cymry yn ystod gwrthryfel ffyrnig Madog ap Llywelyn 1294-95.
- Gwarchae Madog ap Llywelyn ar Aberystwyth Mae'r milwyr Saesnig yn llwyddo i wrthsefyll gwarchae'r Cymry ar Aberystwyth gyda chymorth cyflenwadau ar longau o'r m么r.
- Castell Conwy dan warchae Mae Conwy dan warchae yn ystod gwrthryfel Madog ap Llywelyn gyda Edward I ei hun oddi mewn i'r castell.
- Cychwyn adeiladu Castell Biwmares Wedi i Madog ap Llywelyn gipio Castell Caernarfon mae Edward I yn mynd ati i adeiladu pencadlys newydd ym M么n.
- Rhoi'r gorau i waith adeiladu Biwmares Byddai Biwmares wedi bod yn un o gestyll mwyaf trawiadol Ewrop pe bai wedi ei gwblhau ond mae Edward yn symud ei ymdrechion i'r Alban.
- Glynd诺r yn ymosod ar Ruddlan Mae Castell Rhuddlan yn gwrthsefyll ymosodiad cyntaf Owain Glynd诺r yn ystod y gwrthryfel sy'n dechrau yn 1400.
- Milwyr Glynd诺r yn cipio castell Conwy Mae Castell Conwy yn syrthio i ddwylo'r Cymry ar ddechrau gwrthryfel Glynd诺r.
- Glynd诺r yn ymosod ar Gastell Harlech Mae Castell Harlech yn llwyddo i wrthsefyll ymosodiad cyntaf Glynd诺r.
- Gwarchae Glynd诺r ar Fiwmares Mae'n ymddangos i ddilynwyr Glynd诺r gipio Castell Biwmares am gyfnod.
- Cricieth dan warchae gan Owain Glynd诺r Wedi gwarchae hir mae Castell Cricieth wedi ildio i ddwylo dilynwyr Glynd诺r erbyn 1404.
- Glynd诺r yn cipio Castell Harlech Mae Owain Glynd诺r yn llwyddo i gipio'r castell ar ei ail gynnig, a chynnal senedd yn Harlech.
- Milwyr Glynd诺r yn cipio Aberystwyth Ar yr ail gynnig, mae milwyr Owain Glynd诺r yn llwyddo i feddiannu Castell Aberystwyth, ac mae'n ganolfan bwysig iddo am bedair blynedd.
- Ail ymosodiad Glynd诺r ar Ruddlan Mae Castell Rhuddlan yn llwyddo i wrthsefyll ymosodiad arall gan Glynd诺r.
- Glynd诺r yn ildio Castell Harlech Mae'n rhaid i Owain Glynd诺r ildio Castell Harlech i Harri o Drefynwy, sef Tywysog Cymru yn 么l y drefn Seisnig.
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.
Arwisgiad '69
Arwisgiad '69
Edrych nol ar arwisgiad y Tywysog Siarl yng Nghastell Caernarfon yn 1969.