Sir Benfro
top![Castell Sir Benfro](/staticarchive/80ab4765dbd9cd6fd96efccbfe1796513a95b3e4.jpg)
Bro Jemima Nicholas a DJ Williams, y garreg las a Thyddewi. Ysbrydoliaeth campwaith llenyddol, Dylan Thomas, 'Under Milk Wood' a lleoliad i ffilm olaf 'Harry Potter'. Mae yna gyfoeth o hanes yn Sir Benfro.
Cefndir Abergwaun
![Abergwaun Abergwaun](/staticarchive/a688070a5c1eb60b4ef24c70eb8ab0ee7e6e0762.jpg)
Mae'r ardal hon yn cynnwys tref Abergwaun sydd ar arfordir gogleddol Penfro a'r pentrefi cyfagos.
Mae dwy ran i dref Abergwaun sef y dref newydd a Chwm Abergwaun, yr hen dref a ddatblygodd o amgylch yr harbwr.
Yn ystod y 16eg ganrif roedd Cwm Abergwaun yn borthladd prysur. Roedd tipyn o fasnachu yn digwydd yma. Penwaig oedd y prif fasnach ac roedd tomen ohonyn nhw'n cael eu hallforio mor bell 芒 gwledydd m么r y Canoldir. Yn ystod y 19eg ganrif adeiladwyd iard longau yma.
Ar ddechrau'r 20fed ganrif datblygodd porthladd Wdig a dirywio wnaeth porthladd Cwm Abergwaun. O Wdig y bydd y llongau yn hwylio i Iwerddon heddiw.
Ysbrydoli Llenyddiaeth
![Dylan Thomas Dylan Thomas](/staticarchive/8c9cec0a89e7285551e687c6f5fe9658dee9c002.jpg)
Mae Cwm Abergwaun yn lecyn hardd gydag awyrgylch arbennig. Dyma leoliad y ffilm 'Under Milk Wood' a 'Moby Dick'. Ffilmiwyd 'Under Milk Wood', drama enwog Dylan Thomas, ym 1971 gyda Richard Burton ac Elizabeth Taylor. Ar lan y m么r yng Nghwm Abergwaun mae carreg sy'n coff谩u'r digwyddiad hwn.
Ymosodiad y Ffrancod
Ni ellir meddwl am Abergwaun heb gofio am laniad y Ffrancod, un o'r digwyddiad rhyfeddaf yn hanes Cymru.
Ar Chwefror 22ain 1797 glaniodd byddin fechan o longau Ffrengig ger Carreg Wastad dair milltir i'r gorllewin o Abergwaun. Roedd yr ymosodiad yn rhan o'r rhyfel rhwng Ffrainc a Phrydain a ddechreuodd yn 1793, wedi'r Chwyldro Ffrengig ym 1789. Roedd Ffrainc yn berchen ar y fyddin gryfaf yn y byd. Felly aeth y newyddion bod y Ffrancwyr wedi glanio yn Abergwaun o amgylch y wlad fel t芒n gwyllt gan greu panig llwyr.
Wedi glanio aeth y fyddin ati i ysbeilio ffermdai a thyddynnod Pen-caer gan yfed y casgenni gwin oedd yn cael eu cadw yma wedi i'r perchnogion eu cludo o long smyglo oedd wedi ei dryllio ar y creigiau cyfagos.
Tra roedd dynion Penfro'n ymgasglu yngh欧d i'w hymladd casglodd gwraig leol o'r enw Jemeima Nicholas gr诺p o ferched yngh欧d. Ymosododd y merched ar y Ffrancod yn gwisgo'r wisg Gymreig.
![Llun o Jemima Nicholas Darlun o Jemima Nicholas](/staticarchive/07633f28ebe1bf576a3765bda33db68005c2dcb3.jpg)
Dynes y Bicfforch
Roedd y Ffrancwyr erbyn hyn yn feddw wedi iddyn nhw fod yn yfed ar 么l glanio a dychrynodd y llu pan welsant y merched yn gwisgo'r wisg draddodiadol gan ildio. Dywedir bod Jemeima ei hun wedi ymladd tua deuddeg ohonynt gyda dim ond picfforch a'u dwyn i dref Abergwaun i'w rhoi dan glo.
Dridiau yn ddiweddarach ildiodd y Ffrancwyr i'r Arglwydd Cawdor gan osod eu harfau ar draeth Wdig.
Heddiw mae cofeb i goffau'r glaniad ar yr arfordir yng Ngharreg Wastad ac mae hysbysfwrdd yn adrodd yr hanes ger porthladd Wdig.
Yn 1997 er mwyn dathlu dau ganmlwyddiant y glaniad lluniwyd tapestri mawr fel tapestri Bayeux yn adrodd yr hanes. Mae hwn yn cael ei arddangos yn Neuadd Eglwys y Santes Fair ar sgw芒r Abergwaun ac ym mynwent yr eglwys honno mae bedd Jemeima Nicholas.
Ar ganol y sgw芒r mae tafarn y Royal Oak. Dyma lle'r oedd pencadlys y dynion lleol yn ystod goresgyniad y Ffrancod ym 1797 ac yma'r arwyddwyd y cytundeb rhwng y Cymry a'r Ffrancwyr yn cadarnhau bod y Ffrancwyr yn ildio.
DJ Williams ac Abergwaun
![Gorsedd Abergwaun Gorsedd Abergwaun](/staticarchive/9a202f5d7588de81811728e286a9ebc987c9740d.jpg)
Cysylltir Abergwaun hefyd 芒'r Llenor enwog, D.J.Williams, gan iddo dreulio'r rhan fwyaf o'i fywyd yma.
Mae'r siop lyfrau Gymraeg yn Abergwaun wedi ei henwi ar ei 么l a saif carreg goffa iddo ar lawnt y Wesh. Mae'r garreg wedi ei chreu drwy ddefnyddio carreg las Pen-caer.
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi ymweld ag Abergwaun ddwywaith. Tystiolaeth o hynny yw cerrig yr orsedd ac mae dwy gylch o gerrig i'w gweld yn y dref.
Saif y cylch cyntaf ar y tir uwchben y m么r yn wynebu Cwm Abergwaun. Codwyd y cylch ar gyfer cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun 1936. Ar bob carreg mae enw'r plwyf a'i cyfrannodd.
Yn anffodus bu'n rhaid cynnal un o seremon茂au'r Eisteddfod mewn ysgoldy gerllaw oherwydd y tywydd stormus. Roedd hyn yn torri traddodiad a gwylltiodd un derwydd o ganlyniad. Yn ei ddicter gweinyddodd ei seremoni ei hun yng nghanol y glaw ac i gyfeiliant s诺n y gwylanod.
Yn 1986, hanner can mlynedd wedi ei ymweliad diwethaf, daeth yr Eisteddfod Genedlaethol i Abergwaun unwaith eto a'r tro hwnnw codwyd cylch yr orsedd ym mharc Lota yn y dref.
Gerllaw'r cylch cyntaf, lle mae'r tir yn gostwng tua'r harbwr, mae dwy fagnel. Defnyddiwyd un ohonyn nhw'n dyddio yn Rhyfel y Crimea a'r llall yn yr Ail Ryfel Byd. Mae magnel yn sefyll ar ganol sgw芒r y dref hefyd.