Plethodd ei lenydda a'i wleidydda yn undod llwyr ar hyd ei oes. Yn wir, anodd gwahaniaethu rhwng y ddau yn ei achos ef.
Ymroddodd i ddiwylliant ei genedl yn ei holl agweddau gan ychwanegu swmp o ryddiaith cywrain i'n ll锚n.
Mae ei gariad at ei wlad yn pefrio trwy bopeth a ysgrifennodd. At hynny, roedd yn weithiwr diflino dros achos Plaid Cymru yn lleol ac yn genedlaethol.
Yn anad dim, fe oedd un o'r tri a weithredodd yn erbyn yr ysgol fomio ym Mhenyberth ym 1936.
Anfarwoli ei filltir sgw芒r
Ganwyd David John Williams ym 1885 yn Rhydcymerau, Sir Gaerfyrddin, ardal a anfarwolir yn ei ddwy gyfrol o hunangofiant, Hen D欧 Fferm (1953) ac Yn Chwech ar Hugain Oed (1959).
Gadawodd ei fro enedigol yn llanc i fod yn l枚wr yng Nghwm Rhondda a chymoedd eraill, profiad a ddisgrifir yn rhai o'i stor茂au byrion.
Cafodd ei addysg yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth, ac yng Ngholeg Iesu, Rhydychen.
Ei swydd dysgu gyntaf oedd yn Ysgol Lewis, Pengam, ond treuliodd weddill ei oes yn athro Saesneg yn Ysgol Ramadeg Abergwaun, Sir Benfro.
Cymeriad cofiadwy
Yr oedd D. J., fel yr adwaenid y cymeriad hoffus hwn, ymhlith sefydlwyr Plaid Cymru ym 1925.
Cymerodd ran, ynghyd 芒 Saunders Lewis a Lewis Valentine, yn y weithred symbolaidd o losgi siediau ar safle'r ysgol fomio ym Mhenyberth fel protest yn erbyn penderfyniad y Llywodraeth i'w hadeiladu er gwaethaf barn gyhoeddus yng Nghymru.
Nid oedd y rheithgor yng Nghaernarfon yn gallu dod i benderfyniad a symudwyd yr achos i'r Old Bailey, lle cafodd y tri yn euog; yn ystod yr achos gwrthododd D. J. siarad Saesneg, gan aros am y ddedfryd i gael ei chyfieithu i'r Gymraeg cyn gadael y doc.
O ganlyniad, treuliodd naw mis yn Wormwood Scrubs cyn dychwelyd i'w swydd yn Abergwaun; yn annhebyg i Saunders Lewis, cadwodd ei gymeriad siriol trwy gydol y profiad cas hwn.
Pwysigrwydd bro ei febyd
Y weledigaeth a'i gynhaliodd oedd 'y filltir sgw芒r' o gwmpas ei fro enedigol - cymdeithas fechan, gl貌s, lle oedd gwerthoedd dynol yn dyrchafu'r unigolyn a lle oedd ysbryd o gydweithrediad yn agos iawn at y reddf naturiol.
Yn wir, mae yna fwy o s么n yn Yr Hen D欧; Fferm am yr ardal nac am yr awdur ei hun.
Mynnai Gwenallt, un arall 芒 chysylltiadau 芒 Rhydcymerau, fod hunangofiant D. J. yn 'rhoi darlun rhy rosynog o gyflwr economaidd y ffermwr'.
Boed hynny fel y bo, prif diddordeb D. J. oedd y cymeriadau a'u harferion, ac o'r herwydd mae ei lyfrau'n ddogfen gymdeithasol o bwys. Yn y gyfrol ddilynol, Yn Chwech ar Hugain Oed, llyfr mwy difyr a darllenadwy efallai, ceir llawer rhagor am yr ardal, gyda'r pwyslais ar y capel, yr ysgol a'r dafarn - roedd D. J. yn hoff iawn o'i beint - yn ogystal 芒 disgrifiadau o brofiadau'r awdur o dan ddaear.
Talentau llenyddol
Yn ei stor茂au byrion dangosodd D. J. ei dalentau fel cyfarwydd o allu arbennig.
Fe'u cyhoeddwyd mewn tair cyfrol a'u casglu o dan y teitl Stor茂au'r Tir ym 1966.
Cyfrwystra syml a hiwmor ffraeth yw eu prif nodweddion a hwyrach y gwelir nhw ar eu gorau yn y stori enwog 'Blwyddyn Llwyddiannus', lle mae ffermwr wrth brynu llo yn ennill gwraig yr un pryd. Ceir pedair stori arall yn y gyfrol Y Gaseg Ddu (gol. J. Gwyn Griffiths, 1970).
Cyfrannodd D. J. lu o erthyglau yn ymwneud 芒 Chymru a chenedlaetholdeb i bapurau Plaid Cymru. Ysgrifennodd hefyd astudiaeth o Mazzini, yr arwr Eidaleg, ac o'r llenor Gwyddelig George Russell, yn ogystal 芒'i atgofion am ddyddiau cynnar Plaid Cymru, o dan y teitl Codi'r Faner (1968).
Nodweddir ei weithiau llenyddol gan arddull gywrain, serch at anifeiliaid (yn enwedig ceffylau), ei hoffter o grwydro'n rhadlon, a'i ddawn dychanol ond caredig.
Bu farw ym 1970 tra'n annerch cynulleidfa yn Rhydcymerau. Fe'i coffheir gan blac ar wal y t欧; (The Bristol Trader gynt) yn y Stryd Fawr, Abergwaun, lle trigodd yr awdur gyda'i wraig am flynyddoedd lawer.
Meic Stephens
Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn