Dywedir i 'wrachod' neu 'witsiwrs' Llanddona gael eu halltudio o'u gwlad eu hunain ganrifoedd lawer yn 么l (o Lychlyn neu Iwerddon yn 么l traddodiad) a'u gyrru allan i'r m么r mewn cwch heb rwyfau na llyw.
Yn 么l y stori, mi chwythodd y gwynt nhw i gyfeiriad M么n ac er gwaetha agwedd gelyniaethus y trigolion mi gawson nhw loches rhwng pentref Llanddona a'r m么r.
Un ohonyn nhw oedd Si芒n Bwt - gwraig fechan garpiog, bryd tywyll, prin bedair troedfedd o daldra, a dwy fawd ar ei llaw chwith. Roedden nhw'n byw ar gardota a melltithio, a chredid y gallent drosglwyddo'u gallu o un genhedlaeth i'r llall, yn arbennig o fam i ferch. Os oedd rhywbeth yn mynd o'i le ar y fferm, y gwrachod a g芒i'r bai. Roedd pobl yn credu hefyd eu bod yn gallu trawsffurfio'u hunain yn sgwarnogod i osgoi cael eu dal yn godro'r gwartheg. Roedd y gw欧r yn byw ar smyglo a phan fyddent yn flin, mi fydden yn datod cwlwm eu cadach gwddw ac yn rhyddhau pryf a'i anelu yn syth am lygad yr ymosodwr a'i ddallu. Cliciwch ar y dolenni ar y dde i glywed mwy o'r stori.
|