![Chwedlau Lleol](/staticarchive/109a4a20505856edaa1d94f0a02dfe387cec76d6.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |

![dwynwen](/staticarchive/0e3c3d3bd87f68f1843a4edbc18a7069ae2dd034.jpg)
1. Un tro, amser maith yn ôl roedd tywysoges hardd o'r enw Dwynwen. |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/da3a917fc7f6e646ed3c50cd6e0bb039cd995c7b.jpg)
2. Roedd hi'n ferch i'r brenin Brychan Brycheiniog a oedd wedi trefnu iddi briodi tywysog pwysig.
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/77d491d6e8586ee7904efe004b383e476612ab99.jpg)
3. Ond, roedd Dwynwen mewn cariad dros ei phen â'i chlustiau efo tywysog arall o'r enw Maelon Dafodrill.
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/db1aadfc5e0db2757f76f2363035fa80666a4fc8.jpg)
4. Felly, aeth at ei thad i ddweud wrtho nad oedd hi eisiau priodi'r tywysog roedd o wedi ei ddewis. |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/08fbb9f8de5a37f15b7636549e80307a27edc08d.jpg)
5. "Does dim ots gen i," meddai ei thad, "mae'n rhaid iti briodi'r tywysog rydw i wedi ei ddewis!"
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/2ed7c837dc3621861b7a0ece32209cda5d4d9272.jpg)
6. Rhedodd Dwynwen at Maelon yn crïo, a dywedodd: "Mae'n rhaid i mi briodi tywysog arall!"
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/a0ccce7331d3b89c8da4275fd0d808e114f40bfc.jpg)
7. Pan glywodd Maelon hyn, gwylltiodd yn gacwn a dweud wrthi nad oedd byth eisiau ei gweld hi eto. |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/316ef12b5644b8100903dbef6fa6f0579601d275.jpg)
8. Torrodd Dwynwen ei chalon yn llwyr. Roedd hi mor drist, aeth i fyw ar ei phen ei hun mewn coedwig.
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/1a2bc8aebd1169291115ee87a0b79e21c9e7bdd7.jpg)
9. Yn y goedwig, roedd hi'n unig ac yn ddigalon. Gweddïodd ar Dduw i'w gwella hi o'i chariad at Maelon
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/791735e4a456456d85e59c70ea23b458f1f07b40.jpg)
10. Yna, un noson tra roedd hi'n cysgu, daeth angel at Dwynwen a rhoi diod arbennig iddi i'w gwella. |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/8c6f0a09366241d0570cf48692c7779c9bba38bb.jpg)
11. Dechreuodd Dwynwen freuddwydio. Yn y freuddwyd, mi welodd hi'r angel yn rhoi diod i Maelon hefyd a chafodd ei droi yn dalp o rew.
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/2c79e234a20a133f865a9d15541beedbff8ae7d8.jpg)
12. Yna, cafodd Dwynwen dri dymuniad: dadmer Maelon, gwneud cariadon Cymru yn hapus a gwneud yn siŵr na fyddai hi byth eisiau priodi.
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/7966be92d1863e4d80a8d45bac2e536e81f1ab23.jpg)
13. Daeth y tri dymuniad yn wir a phenderfynodd Dwynwen gysegru ei bywyd i wasanaethu Duw ac edrych ar ôl cariadon Cymru. |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/a21fb09eaa640093b24244fd4bfa063e525d01d5.jpg)
14. Sefydlodd eglwys ar ynys wrth ymyl Niwbwrch, sy'n cael ei galw heddiw yn Ynys Llanddwyn a daeth yn nawddsant cariadon.
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/676e3ca47cb798833009d6047f92d76638d43b8d.jpg)
15. Heddiw, mae cariadon yng Nghymru yn dathlu diwrnod Santes Dwynwen ar Ionawr 25, ac yn gyrru cardiau serch i'w gilydd.