|
|
|
Cefn gwlad Mae 'na ddigon o gefnogaeth a gwybodaeth ar gael ar y we i ffermwyr. Ond mae mwy i gefn gwlad nag amaethyddiaeth. Chwiliwch drwy'r gwefannau isod a chofiwch gysylltu os dowch chi ar draws rhai da eraill.
|
|
|
|
http://www.cprw.org.uk/
Gwybodaeth am gefn gwlad ac am ymgyrchoedd y mudiad i ddiogelu a gwella'r wlad, yr amgylchfyd ac adnoddau yng nghefn gwlad. Mae cardiau Nadolig hardd ar werth ar y wefan hefyd.
http://www.forestry.gov.uk
Y Comiswn ydy adran y Llywodraeth sy'n gyfrifol am goedwigaeth ym Mhrydain. Mae'r safle yn cynnig gwybodaeth am weithgareddau yng nghoetiroedd Cymru, gan ganolbwyntio ar fywyd gwyllt yn y coedwigoedd hynny a mwynhau cefn gwlad. Ceir manylion am gynlluniau'r comisiwn yn y tymor byr ac i'r dyfodol hefyd.
http://www.ffarmddigidol.com/
Rhaid i chi gofrestru i gael y gwasanaeth llawn o'r tudalennau hyn sy'n cynnig newyddion am gefn gwlad, porth ar y we ar gyfer y byd amaeth yng Nghymru a chysylltiadau at ragor o wybodaeth am fywyd Cymru.
http://www.coedcymru.org.uk
Sefydlwyd yn 1985 gyda'r bwriad o reoli coetiroedd llydan-ddail mewn ffordd gynaladwy. Mae'r safle yn eich cyfeirio at ffynonellau cymorth, yn hysbysebu digwyddiadau a gallwch lwytho lluniau oddi ar y safle hefyd - yn eu mysg rhai prin iawn o'r 19eg ganrif.
http://www.cla.org.uk/
Bwriad y CLA ydy diogelu buddiannau tirfeddianwyr preifat a busnesau cefn gwlad. Mae'r safle yn cynnig - ymhlith pethau eraill - rhith bentref. Wrth glicio ar ran o'r pentref, gellir gweld adroddiadau'r gymdeithas ar y pwnc arbennig hwnnw. Rhestrir cysylltiadau'r gymdeithas yng ngogledd orllewin Cymru hefyd.
http://www.fuw.org.uk/
Sefydlwyd yr FUW yn 1955 ac mae'r safle yn cynnwys datganiadau i'r wasg, polisïau a manylion cyswllt ei swyddogion.
http://www.nfu.org.uk/
Sefydlwyd yr NFU yn 1904 ac mae'r safle'n cynnwys deunydd am addysg, newyddion a gwybodaeth, datganiadau i'r wasg, manylion aelodaeth ac amrywiaeth o wasanaethau eraill.
http://www.yfc-wales.org.uk
Mudiad i ieuenctid cefn gwlad ydy'r CFfI. Rhaid ichi fod rhwng 10 a 26 oed i fod yn aelod a bellach mae gan y mudiad dros 100 o glybiau ar hyd a lled Cymru. Ceir rhestr o'r clybiau ar y safle ynghyd â fforwm drafod a llyfrgell. Mae'r peiriant chwilio yn eich galluogi i edrych ar galendr o ddigwyddiadau yn eich ardal chi.
http://www.rwas.co.uk/
Cyfle i unrhyw un sy'n awyddus i ymweld â'r sioe yn Llanelwedd gael y wybodaeth ddiweddaraf am y sioe bwysig hon. Mae'n cynnwys gwybodaeth hefyd am y Ffair Aeaf ar sioe i ddeiliaid ffermydd bach.
http://www.farmwales.co.uk/training/
Safle'r mudiad hyfforddiant amaethyddol sy'n cynnig cyrsiau yng ngogledd orllewin Cymru ar iechyd a diogelwch, trin cerbydau, sgiliau cynnal a chadw'r amgylchedd a chynnal stadau.
Cliciwch yma i weld rhestr o wefannau natur.
Dyw'r 91Èȱ¬ ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.
|
|
|
|
|