|
|
|
Bangor ar y we Croeso i ddinas Bangor ar y we. O bêl-droed i'r brifysgol, dyma ein dewis ni o rai o wefannau'r ddinas. Os ydych chi am i ni gynnwys unrhyw wefan arall, cysylltwch â ni. |
|
|
|
http://www.bangor.ac.uk
Mae Prifysgol Cymru ym Mangor yn cynnig amrywiaeth mawr o gyrsiau gradd ac ôl-radd i fyfyrwyr o bedwar ban byd yn ogystal â chyrsiau i'r gymuned yn yr Adran Dysgu Gydol Oes. Mae'r safle yn cynnwys cyfoeth o wybodaeth am bob agwedd ar fywyd prifysgol, yn staff a myfyrwyr, darpar-fyfywyr ac ymwelwyr, a manylion am y cyfleusterau sydd ar gael at ddefnydd y gymuned.
http://www.menai.ac.uk/
Mae tua 6,000 o fyfyrwyr yn mynychu'r coleg naill yn y safleoedd mwyaf ym Mangor a Llangefni neu mewn canolfannau eraill yng Nghaernarfon a Chaergybi. Yn ogystal â mynegai defnyddiol i'r cyrsiau, yr adnoddau a'r cyfleusterau sydd ar gael, mae safle'n cynnig cysylltiadau ag amrywiol gynlluniau a fforwm drafod aml-gyfrwng.
http://www.undeb.bangor.ac.uk/umcb/
Mae Learndirect yn cynnig cyrsiau ar-lein ar nifer o wahanol bynciau. I gael lle ar y cwrs rhaid mynd i un o ganolfannau Learndirect yn Llandudno neu Gaergybi ond ar ôl hynny gellir dilyn y cwrs naill mewn canolfan yn nes at adref neu yn y cartref.
http://www.citizens-choice.co.uk/
Er mai gwefan answyddogol ydy hon, mae hi'n gynhwysfawr ac yn gyfredol ac erbyn hyn yn cystadlu â gwefan swyddogol y clwb.
http://www.bangor-rugby.co.uk/
Mae'r safle ardderchog yma sy'n hawdd ei ddefnyddio yn cynnig cyflwyniad llawn i Glwb Rygbi Bangor. Ceir adroddiadau a lluniau o'r gemau diweddaraf, canlyniadau a dyddiadau gemau sydd i ddod a chyfle hefyd i'r cefnogwyr ddweud eu dweud ar fwrdd negesuon y clwb. Gellir gweld digon o luniau o anturiaethau'r chwaraewyr a chlywed am yr enwogion sydd wedi chwarae i'r clwb. Un feirniadaeth fach ydy ei bod yn dweud ei bod yn cynnig dewis Cymraeg ond does dim o'r tudalennau ar gael yn Gymraeg. Er hynny, mae cefnogwyr Bangor yn lwcus iawn!
http://www.cpdpenrhos.com
Cadwch llygad ar newyddion a chanlyniadau timau ieuenctid Clwb ±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Penrhosgarnedd ar y wefan yma sy'n hawdd iawn i'w ddefnyddio. Awgrymwyd gan David James
Dyw'r 91Èȱ¬ ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.
|
|
|
|
|