Penderfynais ddysgu Cymraeg gan fod fy ngŵr yn Gymro ac roeddwn yn awyddus iawn i fagu'r plant yn y Gymraeg. Roeddem yn byw yn Llundain ar y pryd, felly roedd codi pac a symud i Rhuthun yn gyfle gwych i mi gael dysgu Cymraeg yn iawn. Dechreuais ddysgu Cymraeg drwy fynd i ddosbarthiadau nos Wlpan yn Ninbych am ddwy flynedd. Roedd hyn wrth gwrs cyn sefydlu Menter Iaith Sir Ddinbych, sydd wedi gwneud gwahaniaeth mawr i'r dre. Ar ôl y cwrs, roeddwn yn bachu bob cyfle i gael ymarfer! Ymunais â'r Ysgol Feithrin, Merched y Wawr a'r capel. Yn ogystal â hyn, gan fod fy mhlant - a oedd yn bump a thair oed ar y pryd - hefyd yn dysgu'r iaith, roeddwn yn darllen llawer o lyfrau Cymraeg iddynt. Roedd y plant yn medru ymarfer drwy fynd i'r Ysgol Feithrin a'r Ysgol Gynradd. Erbyn hyn, rydym yn deulu gwbl ddwyieithog - rydym yn dewis ein iaith ar ble bynnag yr ydym ar y pryd a pha bynnag iaith sydd yn dod yn naturiol i ni. Mae dysgu Cymraeg wedi rhoi sgil ychwanegol i mi ac wedi rhoi mwy o sgôp i mi yn fy ngyrfa. Ni fuaswn byth wedi cael swydd fel dirprwy brifathrawes mewn ysgol uwchradd Gymraeg fel arall! Mae'n rhaid i mi ddweud nad yw'r Gymraeg yr iaith symlaf i'w dysgu, ond mae'r ffaith fod pobl wedi bod mor gefnogol wedi bod yn gymorth mawr. Rwyf wedi bod yn lwcus iawn i gael ffrindiau a chymdogion yn fy annog i ymarfer yr iaith ar bob cyfle. Mae wedi fy ngalluogi i ymuno â bob gweithgaredd yn yr ardal a chynnig rhywbeth yn ôl i'r gymuned. Buaswn yn cynghori unrhyw un sy'n bwriadu dysgu Cymraeg i fynd amdani gan ei fod yn hwyl i ddysgu ac fwy fyth o hwyl i ymarfer yr iaith. Rosemary Jones Ydych chi wedi dysgu Cymraeg ac am rannu eich profiad â ni? Llenwch y ffurflen isod.
|