Ffermwyr Ifanc yn lleisio barn
Bu'r Hysbys yn ymweld â chlwb Ffermwyr Ifanc Edeyrnion, Gwyddelwern yn mis Mawrth 2006. Gofynnwyd y cwestiwn hwn i'r aelodau: Os y buasech yn frenin / frenhines am y dydd, beth fuasech yn ei newid am yr ardal?
Cliciwch trwy'r lluniau isod i weld yr atebion.
Criw o aelodau Clwb Ffermwyr Ifanc Edeyrnion, Gwyddelwern
"Byddai'n braf cael peiriant i fynd yn ôl mewn amser ond fod y pwer hyn gan y dair ohonym yn unig. Rydym yn sicr y byddai hyn yn lleihau ymddygiad gwrth gymdeithasol gan y buasen yn gallu atal y troseddau cyn iddynt ddigwydd! Cael rhywle ar agor am 24 / 7 fydda'r syniad arall - rhywle cynnes efo teledu, soffas a pheiriant gwneud paned. Byddai merch yn gweithio yno fel 'agony aunt' i ddatrys ein problemau yn ogystal â helpu gyda'n gwaith cartref ac i roi cyngor ffasiwn." Gwenno, Mared a Glesni.
"Os y buasen ni yn frenhinoedd am y dydd, mi fuasen ni yn codi'r gwharddiad o hela llwynogod." Huw a Rhys
"Mi fuaswn i yn codi cae pêl-droed gan fod y llall yn gam. Mae'r cae yn dyrchog iawn ar hyn o bryd." Ilan
"Rhoi go-cart trac yn y pentref. Swn i yn cael y go-cart gorau posib. Fyse na siampên i'r enillydd ar y diwedd." Sion
"Mi fuaswn i yn gosod cae rygbi yma gan nad oes un yn y pentref."
Llion
"Mi fuaswn i yn gwnued trac motor-cross yma. Efallai fuasai'r bobl leol yn cwyno am y swn ond gan mod i'n frenin dim ots! Hefyd, codi rhywle ar gyfer pledu paent (paint-balling). Dwi erioed wedi cael y cyfle i'w drio - Oswestry yw'r lle agosaf ar hyn o bryd." John
"Mi fuaswn i yn codi t tafarn newydd gyda cherddoriaeth Gymraeg ac yn llawn o seddi cyffyrddus, bwrdd dartiau, pwl a phobl Gymraeg."
Hywel