91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Gŵyl Fwyd Yr Wyddgrug Gŵyl Fwyd Yr Wyddgrug
Mae trefnwyr Gŵyl Fwyd Yr Wyddgrug wedi cyhoeddi y bydd Gŵyl 2007 yn cael ei chynnal ar benwythnos Medi 22 a 23.

Bu dros 4,000 yn ymweld â'r ŵyl y llynedd ac mae'r trefnwyr yn gobeithio denu mwy o stondinau a gwesteion arbennig eleni.

Bydd dau o gogyddion y byd teledu, Leslie Walters a James Martin, yn arddangos eu doniau coginio yn yr ŵyl.

Mae nifer o gynhyrchwyr lleol eisoes wedi cadarnhau eu presenoldeb yn yr ŵyl, fydd yn cael ei chynnal unwaith eto ym maes parcio Stryd Newydd yng nghanol y dref.

"Cafwyd ymateb positif gan ymwelwyr a busnesau yn yr Wyddgrug yn dilyn yr ŵyl gyntaf," meddai Greg Shanks, perchennog Gwesty Bryn Awel a Chadeirydd Cymdeithas Gwestai a Thai Bwyta'r Wyddgrug, trefnwyr yr ŵyl.

"Eleni mae rhagor wedi dangos diddordeb mewn cymryd rhan a gobeithio bydd presenoldeb cogyddion enwog yn denu rhagor o ymwelwyr i'r dref."

Ceir rhagor o wybodaeth am ŵyl 2007 ar y wefan: neu drwy ffonio 01352 758622 (estyniad 200).


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý