Glan Clwyd oedd yr ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf yng Nghymru pan agorodd ei drysau ym Medi 1956
Un o'r digwyddiadau pwysig fu'n rhan o'r dathliadau oedd Cyngerdd Dathlu yn Theatr Pafiliwn Y Rhyl.
Yno bu talentau'r ysgol yn ddisgyblion a chyn ddisgyblion Ysgol Glan Clwyd, ac yn gyn-ddisgyblion Ysgolion Cymraeg eraill Cymru yn diddanu'r gynulleidfa.
Ymhlith y perfformwyr oedd Steffan Hughes, Tara Bethan, Caryl Parry Jones a'r Band, Corau'r Ysgol a Chôr CF1.
Mae Caryl wedi ei chomisiynu i ysgrifennu cân i ddathlu'r achlysur - cyfle i ni oll ganu'n groch a llawenhau yn llwyddiant addysg uwchradd Gymraeg.
Bydd y gân arbennig hon - Cân y Dathlu, gyda'r perfformwyr oll yn cyd-ganu, yn ddiweddglo gwych i gyngerdd arbennig ond hefyd yn agor pennod arall yn hanes tŵf Addysg Gymraeg.
|