Cynhaliwyd yr Eisteddfod gyntaf yn 1176 o dan nawdd yr Arglwydd Rhys yn ei gastell yn Aberteifi.
Gwahoddwyd beirdd a cherddorion o bob rhan o'r wlad i'w gastell, gan anrhydeddu'r bardd a'r cerddor gorau 芒 chadair, traddodiad sydd wedi parhau hyd heddiw. Cynhaliwyd nifer i Eisteddfod o dan nawdd boneddigion o Gymru ar hyd y canrifoedd.
Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf yn Aberd芒r yn 1861 ac ers hynny mae wedi datblygu ac ehangu i'r 诺yl flynyddol yr ydyn ni'n ei hadnabod heddiw.
Yn ystod ail hanner y 19eg ganrif roedd awch yng Nghymru i ddathlu diwylliant Cymreig ac mae sefydlu'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyfrannu'n helaeth i gynhaliaeth diwylliant cerddorol a llenyddol traddodiadol Gymreig.
Heblaw am 1914 a 1940, mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cael ei chynnal yn flynyddol yn y de a'r gogledd bob yn ail.
Straeon o'r Maes
Edrych n么l
Ailfyw holl straeon a chyfweliadau'r wythnos o faes y Brifwyl yng Nglynebwy.