Dilyn gyrfa Andrew Murray Cafodd Andrew Murray ei eni yn Dunblane, yr Alban ac roedd yn un o'r plant ffodus a oroesodd laddfa Dunblane pan ddaeth dyn i'w ysgol a saethu nifer o blant ac un athrawes.
Bu'n chwarae tenis o oed ifanc iawn am fod ei fam yn hyfforddi yn lleol. Dywedodd nad oedd yn dda iawn, ond roedd yn benderfynol o lwyddo a chyda chymorth ei fam, fu'n chwaraewraig broffesiynol unwaith, gwelwyd potensial yn datblygu.
Pan oedd yn ddeg oed roedd yn cymryd rhan mewn cystadlaethau ar draws Prydain ac enillodd gystadleuaeth yn Langland yn Abertawe. Un o'i fuddugoliaethau mwyaf oedd ennill yr Orange Bowl pan oedd yn 14 ac roedd hyn yn ei roi yn rhif 1 am ei oedran yn y byd. Dyma pryd dechreuodd pobl gymryd sylw ohono.
Methu datblgu talentau ifanc
Ond rydym yn enwog iawn ym Mhrydain am ein methiant i ddatblygu talentau ifanc yn oedolion llwyddiannus. Gwelwyd hyn gyda Martin Lee pan oedd yn rhif 1 yn y byd dan 18 ond ar ôl cyrraedd oed oedolyn ni wnaeth yn dda iawn a syrthiodd i 655 yn y byd.
Cam cyntaf i enwogrwydd
Yn 2004 enillodd Andy Bencampwriaeth Agored yr UD dan 18 a dyma oedd ei gam cyntaf i enwogrwydd. Cafodd lawer o sylw gyda'r wasg am mai dyma oedd ei obaith newydd i gael Prydeiniwr i ennill Pencampwriaeth Wimbledon am fod ymgais Tim Henman wedi bod yn fethiant llwyr.
Yn 2005, mae Andy wedi chwarae mewn nifer o gystadlaethau ail-reng o'r enw 'challengers'. Enillodd ambell gêm fan hyn a fan draw a chododd yn raddol i safle rhif 400 yn y byd. Ond roedd llawer mwy i ddod yn y dyfodol agos...
Derbyniodd Andy 'wildcard' i gystadlu yn Wimbledon 2005 ond ar ôl
cael anaf rai wythnosau'n gynt disgwyliadau anobeithiol iawn oedd
iddo ar y cyfan.
Syfrdanwyd nifer pan welwyd ef yn ennill ei ddwy gêm
gyntaf a bu 2 set i fyny yn erbyn David Nalbandian yn ei drydedd gêm.
Er hyn roedd Andy'n flinedig a chollodd i Nalbandian er mawr siom i'w
gefnogwyr. Ond heb os nac oni bai roedd y profiad wedi bod yn un
gwerthfawr iawn ac roedd o'r diwedd wedi cael profiad o chwarae yn erbyn rhai o oreuon y byd.
Drwy'r misoedd a ddilynodd cododd ei safle yn sylweddol. Roedd o dan lawer o bwysau gan y wasg ond ni wnaeth hyn effeithio o gwbl ar berfformiadau Andy.
Yn ddiweddar cyrhaeddodd rownd derfynol mewn Pencampwriaeth ATP yn Thailand lle chwaraeodd rif 1 yn y byd, Roger Federer. Yn anffodus collodd ond roedd y profiad wedi bod yn un anhygoel.
Felly, beth nesaf? Mae wedi gosod targed i'w hun sef cyrraedd y 10 uchaf yn y byd. Yn sicr mae ganddo'r agwedd i fod yn seren fawr a does dim amheuaeth ei fod wedi ysbrydoli nifer o Brydeinwyr ifanc i ddechrau chwarae tenis. Efallai cawn Brydeiniwr yn ennill Wimbledon yn y dyfodol agos!!
Dafydd Loughran a Gareth Rees
|