91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Coroni'r Brenin Arthur fel a welir ar dapestri Sieffre ym Mhriordy Mynwy © Priordy Mynwy Sieffre o Fynwy, Crëwr Chwedlau
Mae Trefynwy, tref farchnad barchus yn ne ddwyrain Cymru, yn sefyll ar lannau'r Afon Mynwy. Mae'n debyg mai'n agos i'r fan hon y ganed yr ysgolhaig a'r awdur, Sieffre o Fynwy, a elwir weithiau yn 'Sieffre ab Arthur'.
Fe'i ganwyd yn rhan gyntaf y 12ed ganrif i rieni o linach Cymreig neu Lydewig. Yn fuan iawn fe adawodd Geoffrey'r ardal i astudio yn Rhydychen lle y dechreuodd weithio ar y llyfr a fyddai'n ei wneud yn un o'r crëwyr chwedlau mwyaf erioed.

Yr 'Historia regum Britanniae' neu 'Hanes Brenhinoedd Prydain' fel y'i gelwid yn gyffredinol, a ymddangosodd tua 1138, yw un o'r llyfrau mwyaf dylanwadol i ddod allan o Brydain erioed. Cyfunodd y llyfr nifer o fythau a chwedlau o Hanes Cymru a Phrydain, gan gyflwyno stori sy'n olrhain hanes gwreiddiau Prydain o Brut, gor-Å´yr Acheaus yn 1100 CC, i fuddugoliaeth olaf y Sacsoniaid a marwolaeth Cadwaladr yn 689 OC.

Yn gynwysedig yn y gronoleg yma mae chwedlau Myrddin a'r Brenin Arthur, ac er eu bod wedi eu crybwyll gan haneswyr cynt, doedd yr haneswyr hynny ddim wedi eu rhoi mewn cyd-destun nac wedi ymhelaethu ar yr hyn mae Sieffre'n ei ddweud amdanyn nhw. P'un ai trwy fwriad neu trwy ddiffyg y digwyddodd hynny, prif orchest Sieffre oedd poblogeidio Chwedl y Brenin Arthur.

Manylion prin am hanes yr awdur
Mae 186 llawysgrif o'r Historia wedi goroesi, mae 48 yn gyflawn, ac mae dau yn dyddio'n ôl i'r 12ed Ganrif. Mae'r ffaith bod cynifer wedi goroesi yn dangos faint o gopïau oedd ar gael ar yr adeg y cafodd ei ysgrifennu.

Er hynny, dydyn ni ddim yn gwybod llawer am ei awdur, Sieffre o Fynwy - dim ond ychydig o fanylion wedi eu casglu o gofnodion swyddogol, digon i gadarnhau ei fodolaeth. Bu'n dyst i rhyw chwech o ddogfennau yn Rhydychen rhwng 1129 a 1151, ac mewn dwy o'r rhain caiff ei alw'n magister, sy'n awgrymu ei fod wedi bod yn dysgu mewn ysgol neu neuadd yn y brifysgol wreiddiol.

Mae ei enw'n ymddangos gydag un Walter, archddiacon Rhydychen, Prifathro Coleg St George, gan awgrymu ei fod wedi bod yn ganon seciwlar yno. Mae cofnodion pellach yn dangos ei fod wedi ei urddo'n offeiriad ym 1152, ac yn esgob Llanelwy ychydig ddyddiau'n ddiweddarach; roedd hefyd yn un o'r esgobion oedd yn dyst i Gytundeb Westminster ym 1153; ac yn olaf mae cronicl Cymreig yn cofnodi ei farwolaeth yn 1155.

Dyn yn ceisio nawdd
Mae argraffiadau o'i lyfrau wedi eu cyflwyno i noddwyr oedd â grym a dylanwad, - rhai yr oedd ef, mae'n siwr, yn gobeithio y bydden nhw'n hybu ei yrfa: Yr Esgob Alexander o Lincoln, Robert, Iarll Caerloyw ac Arglwydd Morgannwg, a oedd hefyd yn fab naturiol i Harri 1 ac yn yr olyniaeth ar gyfer yr orsedd, Waleran Iarll Mellent, y Brenin Stephen, ac yn olaf Robert de Chesney, esgob Lincoln, cyn ganon St George.

O'r cliwiau hyn, gwelir amlinell yn dechrau ymddangos o awdur diwylliedig yn symud yn y cylchoedd oedd yn agos i lysoedd y brenin a'r esgob ac yn chwilio am ddyrchafiad. Tybed pa mor siomedig oedd ef o gael dim ond yr esgobaeth newydd dlawd yn Llanelwy,- wyddom ni ddim.

Tras Sieffre
Dyw'r cofnodion ddim yn datgelu natur unrhyw gysylltiad oedd rhyngddo â Mynwy. Fe allwn ni gymryd bod ei deulu'n rhan o'r gymuned Normanaidd/Eingl-Normanaidd o gwmpas y castell a'r priordy, ac roedd nifer o'r rhain o darddiad Llydewig, felly mae'n demtasiwn i awgrymu ei fod ef hefyd o dras Llydewig, ond nid yw hyn yn ddim mwy na chasgliad credadwy.

Er hynny, fel Monemutensis, 'o Fynwy', yr adwaenid Sieffre, ac felly y dewisodd gael ei adnabod drwy gydol ei yrfa - gyrfa a dreuliodd, fel mae'n digwydd, ymhell oddi yno, felly mae'r disgrifiad yn siŵr o fod yn nodi rhyw gysylltiad â'r lle.

Mae chwedlau yn ffynnu mewn gwactod, a byddai cenedlaethau diweddarach yn chwilio am gysylltiadau cryfach, ond does dim byd cryfach na'r traddodiad hwn yn cysylltu Sieffre'n bendant â'r priordy ym Mynwy, lle mae'r ffenestr Oriel o'r bymthegfed ganrif yn cael ei galw'n Ffenestr Sieffre.

Y cysylltiad ag Arthur
Mewn rhai o'r dogfennau fe elwir Sieffre hefyd yn Galfridus Arturus, sef 'Sieffre Arthur'. Ai dyma enw'i dad (doedd Arthur ddim yn enw personol cyffredin eto)? Ai llysenw yw hwn sy'n awgrymu mai myfyriwr sydd yma wedi ei hudo gan chwedlau'r Brenin Arthur, a oedd mor gyffredin ar hyd Gororau de-ddwyrain Cymru, ac ar hyd dyffrynnoedd yr afon Hafren a'r Gwy. Mae un peth yn sicr, pan aeth Sieffre ati i ysgrifennu ei 'Historia,' fe strwythurodd yr hanes o gwmpas ffigwr Arthur ac fe ddatgelodd pa mor ddwfn y bu'n meddwl am y brenin Prydeinig chwedlonol.

Syniadau am hanes y Brythoniaid
Mae 'Hanes Brenhinoedd Prydain', ynghyd â'i ragflaenydd 'Proffwydoliaethau Myrddin', a gafodd ei gyhoeddi ychydig ynghynt, yn honni ei fod yn naratif o hanes Prydain, a gaiff ei gynrychioli gan lwyddiannau a methiannau y rhai oedd yn llywodraethu.

Mae'r penodau cychwynnol yn disgrifio gwreiddiau Droeaidd- Rhufeinig y Prydeinwyr a'u dyfodiad - ar adeg sydd ar goll yn niwloedd hanes - i ynys Albion, a ailenwyd yn Britannia gan Brutus, y brenin cyntaf. Mae'r ynys yn cael ei rhannu rhwng ei dri mab: yr hynaf, Locrinus, yn cael Loegrina (neu 'Lloegr' erbyn hyn) gyda'r brif ddinas, Llundain; cafodd Albanactus Albany (yr Alban); a chafodd Camber Cambria (Cymru). Felly mae yna dair teyrnas ond un goron,- sef Llundain.

Mae Sieffre'n datgelu hynt nifer o frenhinoedd, a rhai breninesau, dyfodiad y Rhufeiniaid, dyfodiad y Saeson a'r rhyfeloedd a ddilynodd nes iddynt lwyddo i gipio sofraniaeth, nid yn gymaint trwy nerth arfau ond trwy ysgelerder moesol a ffolineb y Prydeinwyr; cymaint felly nes i'w brenin olaf, Cadwaladr, wrth gydnabod mai dyma ewyllys Duw, ddianc i alltudiaeth yn Llydaw, gan farw yn Rhufain yn 689.

Ond nid oes angen anobeithio'n llwyr gan fod Myrddin wedi proffwydo i Vortigern (neu 'Gwrtheyrn' o roi iddo'i enw Cymraeg), y brenin diniwed a gafodd ei dwyllo ac a ganiataodd i'r Saeson ymsefydlu gyntaf oll, y byddai un o'i dras yn dychwelyd i adfer sofraniaeth Prydeinig trwy'r wlad.

Tanio breuddwydion y Cymry
Nid ar hap y lleolir y broffwydoliaeth hon yng nghanol y llyfr, yn union cyn dyfodiad y Saeson. Roedd o gryn arwyddocâd yn y darlleniad Cymraeg o'r Historia, gan fod yr hanes yn cynnig gobaith ac ysbrydoliaeth ar gyfer y dyfodol i ddisgynyddion y Prydeinwyr, sef y Cymry.

A yw llyfr Sieffre yn hanes gwirioneddol, beth bynnag yw hwnnw?

Mynnodd Sieffre, yn y cyflwyniad i'w lyfr, ei fod yn gwneud dim mwy na chyfieithu hen lyfr yn yr iaith Brydeinig a ddaeth allan o Lydaw neu Gymru trwy law Walter, archddiacon Rhydychen. Ond os rhoddodd Walter unrhyw ddefnydd ysgrifenedig i Sieffre, mae'n annhebygol iawn mai dyma'r unig ffynhonnell ac ni allai fod yn debyg i'r 'Historia' a oedd â sawl ffynhonnell lenyddol - clasurol, Beiblaidd a hanesyddol.

Dogfen unigryw
Mae naratif manwl a chynhwysfawr yr Historia yn unigryw ac ni ellir cadarnhau'r rhan fwyaf o'r hyn mae'n ei gynnwys trwy ddefnyddio unrhyw ddogfen arall. Mae'n gyfansoddiad llenyddol sydd wedi ei gynllunio a'i strwythuro'n grefftus, gyda dechrau, uchafbwynt a diwedd gyda llinyn arian naratif sy'n caniatáu i'r storïwr dawnus hwn i roi penodau adloniadol i mewn er mwyn bywiocau'r cyfanwaith. Dyma dystiolaeth mai un awdur fu wrthi, sef Sieffre o Fynwy.

Yn ei gyflwyniad mae Sieffre'n dweud mae ei bwrpas wrth ysgrifennu (neu gyfieithu) yw cyflwyno hanes Prydain cyn i'r Saeson ddod, cyfnod roedd haneswyr Seisnig a Normanaidd yn cael trafferth i daflu unrhyw oleuni arno. Wedi sylwi ar fwlch yn y farchnad, ymatebodd Sieffre i'r sialens trwy greu hanes dychmygol gwych, gan ddefnyddio neu addasu unrhyw ffynonellau dilys ag y gallai, gan dynnu ar lên gwerin a chwedlau Cymreig a Phrydeinig wedi eu cyfuno â'i ddarllen ei hun, a chan ddyfeisio'r gweddill.

Weithiau mae'n ysgrifennu'n eironig, weithiau gyda hiwmor tafod-yn-y-foch, ond yn aml gydag argyhoeddiad am faterion cyfoes - am oferedd gwrthdaro brawdol a rhyfel cartref, am arwriaeth a brad, am frenhiniaeth, cyfiawnder a rhyddid, a thrwy'r cyfan i gyd mae yna gred yn nodweddion moesol llywodraeth. Mae'n ceisio ysgrifennu fel hanesydd cyfoesol; efallai ei fod yn 'ffugiwr' ond mae'n ysgrifennu am wirioneddau gwaelodol.

Ymateb brwd y 'Brythoniaid'
Yn bennaf oll, mae Sieffre'n adlewyrchu, yn strwythur ac amwysedd ei lyfr, y themâu hynny sy'n uno'r hanes brodorol, chwedlonol, Cymreig, sydd yn ymwneud ag undod Prydain, sofraniaeth y Prydeinwyr, a diwedd eu goruchafiaeth, a'r broffwydoliaeth y byddai'r rhain yn cael eu hadfer ryw dro yn y dyfodol. Ni chreodd Sieffre'r chwedl Arthuraidd, ond fe roddodd iddi ei mynegiant mwyaf rhesymegol a statws newydd yn ei chyd-destun Lladin dysgedig.

Mabwysiadodd y Cymry'r llyfr yn awchus, gan ei ail-gyfieithu mewn adegau o argyfwng mewn llu o gopïau, gan ei ddehongli fel cadarnhad o'r gobeithion Meseianaidd a'u cynhaliodd nes iddi ymddangos bod y rhain wedi eu gwireddu yn nyfodiad y llinach Tuduraidd.

Er bod yr Eingl Normaniaid a'r Saeson wedi gwrthod y proffwydoliaethau hyn, fe groesawon nhw'r hanes hwn o'u mamwlad newydd a'r gorffennol gwych y gallent bellach fod yn rhan ohono. Mae peth o boblogrwydd y llyfr hwn yn ei apêl ddwbl, i'r gorchfygedig a'r gorchfygwyr fel ei gilydd; ond fe gafodd ei awdurdod o'r ffaith iddo gael ei dderbyn fel hanes dilys gan y rhan fwyaf o bobl yr oes, gyda dim ond ychydig iawn yn ei amau.

Gadawodd ei awdurdod ei farc ar hanesyddiaeth; daeth yr 'Hanes' i'w weld yn gofnod unigryw a safonol o Brydain gynnar, yn enwedig y cyfnod cyn-Rufeinig, ac fe'i defnyddiwyd fel sail i rannau agoriadol pob cronicl a hanes 'ab origine'. Rhoddodd achres i frenhinoedd a phendefigion, a gosodd gynseiliau hanesyddol i lywodraethwyr taleithiau a'r eglwys.

Creu chwedl Arthur
Pan ddeliwyd â'r materion hyn yn effeithiol gan gyfryngau eraill a thestunau eraill, parhaodd Sieffre'n ffigwr o bwys, nid fel hanesydd ond fel crëwr, ffynhonnell a throsglwyddydd chwedlau llenyddol: Cynfelyn a'i feibion, cariad Locrine a Sabrina, Ferrex a Porrex ac, yn fwyaf cofiadwy, y Brenin Llŷr a'i ferched.

Ei greadigaeth fwyaf yw Arthur, - mae ei deyrnasiad ef yn ganolog i'r Hanes. Nid Sieffre ddyfeisiodd chwedl Arthur ond ei gamp ef yw cyflwyno brenin-ymrerawdwr hanesyddol credadwy, gan roi iddo lys marchogaidd a fyddai wedyn yn leoliad i'r 'genre' llenyddol canoloesol mwyaf grymus, y stori garu llysaidd. Mae rôl 'Historia regum Britanniae' yn y portread o Arthur yn cadarnhau Sieffre o Fynwy fel un o'r crëwyr chwedlau gorau erioed.

Brynley F. Roberts



Cyfrannwch

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý