Bydd gofyn i'r teithiwr igam ogamu ar hyd y ffyrdd er mwyn rhyfeddu at olygfeydd bendigedig Cwm Rhymni. Y prif atyniadau hanesyddol ar gyfer twristiaid yw Castell Caerffili a thÅ· Llancaiach Fawr, ger Nelson.
Mae'r afon yn tarddu uwch ben tref Rhymni, gan lifo heibio i Deri a Throedrhiwfuwch, i lawr i'r Bargoed ac yna ymlaen ar ei thaith drwy Ystrad Mynach, Llanbradach a Chaerffili, gan lifo i'r môr ger ardal Rhymni ar ochr ddwyreiniol Caerdydd.
Ceir rheilffordd hefyd yn teithio o Rymni i lawr i Gaerffili ac ymlaen i Gaerdydd a'r Barri.
Newidiadau diwydiannol
Fel gweddill cymoedd y de ddwyrain, gwelodd Gwm Rhymni newidiadau diwydiannol dros y ddwy ganrif a hanner ddiwethaf. Pan suddwyd y pyllau glo, symudodd miloedd o bobol i'r ardal er mwyn chwilio am waith ac fe adeiladwyd y pentrefi ar hyd llethrau'r cwm. Creithiwyd tirwedd y cwm gan y pyllau glo a'u tomenni sbwriel ac fe ddaeth y boblogaeth newydd ag acenion a syniadau gwahanol i'r cymunedau a fu yn Gymraeg eu hiaith ac yn amaethyddol eu natur.
Nid oes yr un pwll glo ar agor bellach, ac fe chwalwyd llawer o'r tomenni. Ers dwy flynedd bu llawer o symud ar y domen sydd yng nghanol tref Bargoed er mwyn agor ffordd newydd heibio'r dref.
Bu pwll glo'r Universal yn Senghennydd yn enwog oherwydd y ddwy danchwa a ddigwyddodd yno ddechrau'r ugeinfed ganrif, ym 1901 a 1913.
Bu farw 81 yn y danchwa fawr gyntaf ac fe gadarnhawyd bod 439 wedi eu lladd yn yr ail, gyda chyrff 33 ohonyn nhw yn dal yng nghrombil y ddaear. Lladdwyd un o'r achubwyr gan y gwymp hefyd gan godi cyfanswm y rhai a gollodd eu bywydau i 440.
Yn ei lyfr The Valley of the Shadow, mae William Hyatt, un a oroesodd danchwa 1913, yn egluro gwirionedd trist y sefyllfa. Dywed fod ei dad wedi dweud erioed bod mwy o ffwdan pe bai ceffyl yn cael ei ladd dan y ddaear na phe bai dyn yn cael ei ladd gan fod dynion yn rhad a bod y perchnogion yn gorfod talu yn ddrud am geffylau.
Erbyn dechrau'r ganrif bresennol roedd llawer o stadau diwydiannol wedi eu codi ar hyd a lled y cwm ac mae poblogaeth tref Caerffili wedi mwy na dyblu ers 1970.
Gan fod y ffordd ddwyreiniol o Gaerffili, heibio i Bedwas a Threthomas yn hwylus i Gasnewydd, a'r ffordd i'r gorllewin yn arwain at stâd ddiwydiannol gyntaf Cymru yn Nantgarw ac ymlaen at draffordd yr M4, daeth tref Caerffili yn drigfan boblogaidd i'r rhai hynny a fyddai'n teithio i'w gwaith. Mae rhai o weithwyr Bryste a Phenybont yn byw yng ngolwg y castell hefyd.
Datblygiadau diweddar
Does dim rhyfedd felly bod adeiladwyr tai wedi mynd ati i brynu tir ac adeiladu llu o dai ar hyd a lled y dref. Dros y degawd diwethaf, adeiladwyd ffordd osgoi i Lanbradach ac Ystrad Mynach ac fe welwyd bod marchnad dai newydd yng nghanol y cwm rhwng Ystrad Mynach a Bargoed.
Ysgolion y cwm
Lle bynnag y ceir tai newydd, cynyddu y bydd yr alwad am fwy o ysgolion a darpariaethau meddygol. Erbyn diwedd 2002 bydd Ysgol Gyfun Cwm Rhymni wedi symud o'i phum safle yng nghyffiniau Bargoed i'w hadeilad newydd rhwng Maesycwmer a Bedwellty.
Bydd Ysgol Lewis i Fechgyn yn Ystrad Mynach wedi ymgartrefu yn eu hadeiladau newydd hwythau hefyd. Yn ogystal â'r ddwy ysgol yma, mae tair Ysgol Uwchradd yn nhref Caerffili: un ym Medwas, Ysgol Lewis i Ferched yng nghanol Ystrad Mynach; Ysgol Aberbargoed; Ysgol Heol Ddu yn y Bargoed, Ysgol y Coed Duon, ac Ysgol Uwchradd Rhymni sydd yn gwasanaethu plant y cwm. Bydd rhai disgyblion yn mynd allan o'r cwm i dderbyn eu haddysg ac i'r Colegau Technegol yn Cross Keys neu yn Ystrad Mynach.
Mae addysg gynradd y cwm yn haeddu sylw hefyd, ac fe fydd yr Ysgolion Cynradd trwy gyfrwng y Gymraeg yn cyfrannu'n rheolaidd i'r papur bro.
Ysgol y Lawnt sydd yn Rhymni, Ysgol Gilfach Fargod yn y Bargoed, Ysgol Trelyn ym Mhentref Pengam, Ysgol Bro Allta yn Ystrad Mynach, Ysgol Gymraeg Caerffili ac Ysgol y Castell yn y dref, ac Ysgol Ifor Bach yn Senghennydd.
Iechyd
O safbwynt iechyd mae'r cwm yn cael ei wasanaethu gan ddau brif ysbyty sef Ysbyty Ystrad Mynach ac Ysbyty'r Glowyr yng Nghaerffili.
Bellach mae Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd yn cael ei ystyried fel y prif ysbyty sy'n gwasanaethu'r ardal, er y bydd llawer yng ngogledd y cwm yn mynd i Ferthyr neu i'r Fenni ac eraill yn cael eu hanfon i Ysbyty Brenhinol Morgannwg ger Llantrisant neu Ysbyty'r Brifysgol yng Nghaerdydd.
Calon pob pentref yw'r siopau lleol, ond dros y ddau ddegawd diwethaf mae llawer o'r siopau pentref wedi cau. Y prif reswm am hyn yw presenoldeb yr archfarchnadoedd lleol ynghyd â'r hwylustod o allu siopa yng Nghaerdydd.
Agorwyd archfarchnad gyntaf De Cymru ym 1972, a hynny yng Nghaerffili, gan gwmni Carrefour. Ar hyn o bryd cwmni Asda sydd ar y safle. Mae gan Tesco a Safeway siopau sylweddol yn y cwm hefyd.
Yng Nghwm Rhymni ceir tri o'r capeli Anghydffurfiol hynaf, sef Capel Hengoed, Capel Watford a chapel y Groeswen gyda'u traddodiadau cyfoethog. Mae gan Anglicaniaeth hanes sylweddol ar hyd y cwm ac erbyn hyn mae presenoldeb iach gan yr Eglwys Babyddol a'r traddodiad carismataidd.
Er hynny mae'r nifer sy'n mynychu oedfaon yn wythnosol wedi disgyn ac ni ellir disgrifio'r cwm bellach fel cymunedau sy'n rhoi llawer o sylw i'r ffydd Gristnogol.
Un o blant enwocaf y cwm yw Morgan John Rhys o Lanbradach, a fu'n arloesi trefedigaeth yn America.
Nodwedd gyffredinol o fywyd y cymunedau ar draws cymoedd De Cymru yw'r pwyslais diwylliannol a'r dathlu ym myd y campau. Ond ofnir bod yr oes aur wedi bod ac nid yw'r bywyd corawl mor llewyrchus ag y bu.
Corau'r cwm
Ond mae corau meibion yn bodoli yn yr ardal o hyd: Côr Meibion y Silurian yn Rhymni, a Chorau Meibion Bargoed, Caerffili a Chwm yr Aber. Ond maen nhw i gyd yn cwyno nad oes cynnydd yn nifer eu cantorion o blith yr ifanc. Yr un yw hanes y corau merched, er bod band pres Bedwas, Trethomas a Machen yn denu aelodau newydd.
Hefyd ceir cwmnïau drama Saesneg a Chymraeg yng Nghaerffili sy'n ceisio cynnig adloniant cartrefol i'r ardal.
Camp arall wrth gwrs yw rygbi ac mae Clwb Rygbi Caerffili yn un o glybiau rygbi mwyaf llewyrchus y fro, er y byddai'r clybiau pentrefol fel Rhymni, Bargoed, Senghennydd a Bedwas yn awyddus i ddweud eu bod yn llwyddo i gynnal timau o blith y trigolion lleol, tra bod Caerffili fel gweddill clybiau prif-gynghrair rygbi Cymru yn denu chwaraewyr o bobman.
Denzil John