1962
Tynged yr Iaith - Saunders Lewis Darlith radio a weddnewidiodd hanes yr iaith Ar Chwefror 13, 1962, gwahoddwyd Saunders Lewis, yr ysgolhaig, dramodydd, bardd a gwleidydd, i draddodi darlith flynyddol y 91Èȱ¬ ar y radio. "Tynged yr Iaith" oedd ei destun a brawychodd y genedl wrth awgrymu marwolaeth yr iaith yn gynnar yn yr unfed ganrif ar hugain. Erfyniodd ar y gwrandawyr i ddefnyddio'r iaith yn eu bywyd bob dydd. Fe fyddai colli'r iaith meddai "yn sioc a siom i'r rheini ohonom ni sy'n ystyried nad Cymru fydd Cymru heb y Gymraeg". Cafodd ddylanwad mawr ac fe sefydlwyd Cymdeithas yr Iaith yn sgîl y ddarlith hon.
Clipiau perthnasol:
Canfod mwy am...
O Tynged yr Iaith darlledwyd yn gyntaf 13/02/1962
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|