1960
Saunders Lewis Un o genedlaetholwyr mwyaf tanllyd a dylanwadol yr ugeinfed ganrif Ganwyd Saunders Lewis ( 1893 - 1985) yn Wallasey ger Lerpwl, yn fab i weinidog Methodist Calfinaidd. Wedi dwy flynedd ym Mhrifysgol Lerpwl, ymunodd â'r Fyddin. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, treuliodd beth amser yn Ffrainc gan ymddiddori yn iaith a llenyddiaeth y wlad honno. Ar ôl y rhyfel, ailgydiodd yn ei astudiaethau a graddiodd mewn Saesneg. Yn 1922, penodwyd ef i Adran Gymraeg Prifysgol Abertawe. Yn Eisteddfod Pwllheli 1925 daeth rhai o aelodau 'Y Mudiad Cymreig' a 'Byddin Ymreolwyr Cymru' at ei gilydd i ffurfio Plaid Genedlaethol Cymru. Saunders Lewis oedd y Llywydd cyntaf a hynny tan 1939. Yn 1936, ef oedd un o'r 'Tri' a gynhaliodd brotest drwy losgi'r Ysgol Fomio ym Mhenyberth, ac yn 1962, ei ddarlith radio broffwydol 'Tynged yr Iaith' a ysbrydolodd y frwydr dros hawliau i'r iaith Gymraeg.
Clipiau perthnasol:
O Dylanwadau: Saunders Lewis darlledwyd yn gyntaf 19/05/1960
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|