1937
Rhyfel Cartref Sbaen Y Cymry a frwydrodd yn Rhyfel Cartref Sbaen Pan etholodd Sbaen lywodraeth adain-chwith weriniaethol yn 1936, fe wrthryfelwyd yn ei erbyn gan genedlaetholwyr adain-dde dan arweiniad Francisco Franco. Buan iawn y daeth y rhyfel cartref hwn yn ymrafael rhwng y chwith a'r dde ar lefel fyd-eang. Cefnogwyd y cenedlaetholwyr gan yr Almaen, a'r llywodraeth weriniaethol gan wirfoddolwyr adain-chwith o nifer fawr o wledydd, ac fe aeth gwirfoddolwyr i ymrestru yn rhengoedd y weriniaeth. Roedd sosialwyr Cymru yn arbennig o gefnogol i'r weriniaeth ac aeth llawer ohonynt i Sbaen i ymladd yn y Frigâd Gydwladol. Methiant dewr fu ymgyrch y weriniaeth, a'r cenedlaetholwyr a orfu. Dau o'r Cymry a ymunodd â'r Frigâd Gydwladol i ymladd yn erbyn Franco oedd Jack Roberts o Abertridwr a Tom Jones, Shotton.
Clipiau perthnasol:
O Roeddwn i yno - Rhyfel Cartref Sbaen darlledwyd yn gyntaf 02/07/1974
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|