91热爆

Y Gofalwr: adolygiad Jane Wyn

Llion Williams

07 Chwefror 2010

Ffarwel 'Y Gofalwr'

  • Adolygiad Jane Wyn: Y Gofalwr. Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru - a chynnig olaf Cefin Roberts. Chwefror 2010.

Roedd Theatr Y Mwldan, Aberteifi yn eithaf llawn nos Iau, Chwefror 4, noson agoriadol Y Gofalwr - cynhyrchiad olaf Theatr Genedlaethol Cymru dan ofalaeth y cyfarwyddwr artistig presennol Cefin Roberts.

Cyfieithiad llwyddiannus o ddrama Harold Pinter The Caretaker a geir yma gan Elis Gwyn, brawd y diweddar Wil Sam.

Cyfieithwyd y ddrama, yn wreiddiol, ar gyfer ei llwyfannu yn Theatr Y Gegin, Cricieth ym 1964.

Yn dilyn marwolaeth Harold Pinter ddiwedd 2008, mae'n eithaf amserol bod y cwmni cenedlaethol yn llwyfannu'r ddrama a ddaeth 芒'r llwyddiant masnachol cyntaf i'r dramodydd enwog a lwyddodd i blethu realaeth a'r abs岷價d mewn dull mor gelfydd.

Dim ond tri

Dim ond tri chymeriad sydd yn y ddrama dair act ac felly roedd yna ofynion mawr ar y tri actor, Llion Williams (Davies), Rhodri Si么n (Aston) a Carwyn Jones (Mic).

Yn y cyfieithiad, ceir dolen gyswllt rhwng tri Chymro Cymraeg sy'n byw yn Llundain.

Mae Aston a Mic yn frodyr a daw Davies i gysylltiad 芒 nhw wedi i Aston wahodd Davies i aros gydag ef yn dilyn digwyddiad lle bu bron i Davies gael ei ymosod arno.

Caiff breuddwydion a dyheadau'r tri chymeriad eu lleisio, eu trafod a'u dymchwel yn ystod y ddrama bwerus hon. Mae'r them芒u o unigrwydd, methiant a chreulondeb dyn yn amlygu eu hunain yn gelfydd ac, yn nodweddiadol o theatr yr abswrd, troi yn eu hunfan y mae'r cymeriadau.

Tra bo Davies yn dadlau y bydd pob dim yn iawn pan gaiff afael ar ei bapurau (man bydd y tywydd yn gwella), mae Aston yn ceisio perswadio ei hunan ei fod yn dda gyda'i ddwylo ac y bydd yn gallu gweddnewid lle ei frawd yn llwyddiannus - er ei fod yn trwsio'r un plwg trwy gydol y ddrama.

Mae Mic, ar y llaw arall, eisiau ymddiried yn ei frawd a Davies ond eto'n ddig gyda'i hunan am gredu y gall pethau wella mewn unrhyw ffordd.

Perfformiadau egniol

Cafwyd cymeriadu arbennig o dda a'r tri actor yn rhoi perfformiadau egn茂ol a chredadwy yn ystod y cynhyrchiad sydd ryw ddwy awr o hyd.

Mae cymeriadau Pinter yn heriol tu hwnt. Mae yna dywyllwch yn perthyn iddynt bob amser ac mae'n ymdrech fawr i unrhyw actor i amgyffred 芒'r her o chwarae'r cymeriadau sy'n llechu ar ymylon cymdeithas.

Y tri chymeriad

Roedd monolog Aston yn effeithiol iawn a pherfformiad Llion Williams o greadur pathetig - ond balch - Davies yn gofiadwy.

Roedd y set yn wych: cafwyd pileri pren trwchus oedd wedi eu hamgylchynu gan focsys anniben yn pwyso ar ongl fregus yr olwg yn fframio'r llwyfan.

Yn bendant, roedd y set yn adlewyrchu stad ansefydlog y cymeriadau a'r berthynas fregus rhyngddynt.

Mewn ac allan

Un o them芒u mawr Pinter yw'r syniad o edrych mewn ac edrych allan ac yn sicr roedd yna deimlad o claustrophobia ond eto sicrwydd yn cael ei greu gan y set.

Roedd aelodau'r gynulleidfa yn cael eu sugno i mewn i fyd celwyddog, aml-haen y cymeriadau ac roedd y golygfeydd lle'r oedd yna drais yn real ac yn fygythiol iawn.

Dyma theatr fyw ar ei gorau ac ymateb y gynulleidfa yn bositif iawn, ar y cyfan

Clywais un person yn dweud ei fod yn teimlo braidd yn gysglyd yn ystod yr hanner cyntaf ond bod yr ail hanner yn electrig.

Yn nhraddodiad Pinter, mae'r Gofalwr yn ddrama sy'n gofyn am gryn ganolbwyntio ac roeddwn yn dal i feddwl am ffawd y cymeriadau a'r them芒u pwerus yn ystod y siwrnai adref yn y car.

Ap锚l eang?

Soniodd Cefin Roberts, mewn cyfweliad diweddar 芒'r cylchgrawn Golwg ei fod yn ymwybodol o'r angen i gynyrchiadau'r Theatr Genedlaethol fod ag "ap锚l eang".

Bydd yn ddiddorol i weld, yn ystod taith Y Gofalwr a fydd yr arlwy yn plesio'r mwyafrif.

Un peth yw plesio athrawes Saesneg sy'n hoff iawn o waith Pinter ond, mewn realiti, a fydd pawb yn mwynhau pryd arall o'r 'abswrd' yn dilyn Wrth Aros Beckett yn 2006?

Rhaid codi'r cwestiwn - dylanwad Pinter, si诺r o fod.


A - Z theatr

Pori gwefan Cylchgrawn 91热爆 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.