91热爆

Y Gofalwr - barn Catrin Beard

Ymarfer ar gyfer Y Gofalwr

08 Chwefror 2010

Yr oedd gan Catrin Beard, yn adolygu Y Gofalwr ar Raglen Dewi Llwyd, bore Sul, Chwefror 7, 2010, ganmoliaeth arbennig i un o'r actorion yn y cynhyrchiad hwn.

Disgrifiodd berfformiad Llion Williams fel un "arbennig o dda".

Wrth s么n am y cynhyrchiad yn gyffredinol agorodd trwy ddweud fod "pwysau ofnadwy" ar y Gwmni Theatr Genedlaethol Cymru gyda'r cynhyrchiad hwn.

[an error occurred while processing this directive]

"Nid yn unig mae'n gynhyrchiad olaf Cefin Roberts ond hefyd yn dilyn yr holl ffrae gyda Tyner yw'r Lleuad Heno felly roeddwn i dipyn yn betrus ar eu rhan nhw yn mynd i weld The Caretaker gan Pinter achos dydi hi ddim yn ddrama sy'n mynd i gynhyrfu cynulleidfa - does na ddim rhyw waw ffactor i godi cynulleidfa," meddai.

"Be gawn i, fel ym mhob drama gan Pinter, ydi darlun o sut mae pobl yn ceisio rheoli ei gilydd ac yn arbennig beth ydi natur perthynas a grym a thwyll ac yn y pen draw mae'n dangos fod pawb ar ei ben ei hun," meddai.

Am y cyfieithiad dywedodd fod "Cymraeg ardal Eifionydd" yn "gweithio'n rhyfeddol o dda" a'i bod yn swnio fel drama Gymraeg.

Ond ychwanegodd bod rhai pethau yn mynd ar goll gan mai dram芒u hanfodol Saesneg yw rhai Pinter o ran eu natur.

"Ond wedi dweud hynny, mewn drama sy'n ymwneud 芒 grym a pherthynas mae gan y Gymraeg fantais enfawr achos ellwch chi ddefnyddio 'ti' a 'chi' ac yr oedd defnydd da o hynny yn y cynhyrchiad.," meddai.

O ran perfformiadau canmolodd yn arbennig Llion Williams fel Davies, y cymeriad y mae'r canolbwyntio pennaf arano.

"Yr oedd yn berfformiad arbennig o dda," meddai.

"Yr oedd wedi credu yn y cymeriad yn llawn. Mae o'n berson hynod o annymunol, yn cowtowio un funud ac yn trio bwlio'r funud nesaf ," meddai.

Ond hynny weithiau gydag elfennau o Ifas y Tryc yn yr ymadroddi "a Harold Steptoe ar adegau".

"Yr oedd peryg wedyn iddo droi'n garaicatur ac efallai ychydig yn bregethwrol ond yr oedd Llion yn tynnu'n 么l o'r dibyn yna ac wrth i'r perfformiad fynd yn ei flaen yr oedd yn ymlacio ac erbyn y diwedd yr oeddwn i wedi anghofio am Ifans," meddai.

Disgrifiodd berfformiad Rhodri Sion fel Aston fel un "slow burn" gydag uchafbwynt ei brif araith yn dda iawn.

Am Carwyn Jones yn chwarae y cymeriad bygythiol a sinistr, Mic, dywedodd ei fod "braidd allan o'i ddyfnder"

"Mae yna haenau lawer i gymeriadau Pinter, nid be da chi'n weld ydi be da chi'n gael a doedd yna ddim cweit digon o fygythiad yma," meddai.

Crynhodd trwy ddweud i'r cynhyrchiad lwyddo ar y cyfan gyda Llion Williams yn serennu.

  • Cliciwch YMA i glywed beth oedd gan Catrin Beard i'w ddweud am ddiwedd cyfnod Cefin Roberts gyda Chwmni Theatr Genedlaethol Cymru.

A - Z theatr

Pori gwefan Cylchgrawn 91热爆 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.