12 Ionawr 2010
Drama fawr Pinter yn Gymraeg
Cyfieithiad Cymraeg o un o ddram芒u enwocaf y theatr Saesneg fydd cynhyrchiad nesaf Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru.
The Caretaker yn 1959 oedd llwyddiant mawr cyntaf un o ddramodwyr enwocaf Lloegr, Harold Pinter, y dyfarnwyd iddo Wobr Nobel bum mlynedd yn 么l.
Yn ogystal 芒 bod yn ddramodydd yr oedd Pinter hefyd yn actor - dan yr enw David Baron - ac yn awdur sgriptiau ffilm fel The Servant, The Quiller Memorandum a The French Lieutenant's Woman.
Cyfieithiad Elis Gwyn o Y Gofalwr fydd yn cael ei pherfformio gan y cwmni cenedlaethol mewn theatrau ar hyd a lled Cymru fis Chwefror a Mawrth.
Nid dyma daith genedlaethol gyntaf y ddrama fodd bynnag gan iddi gael ei pherfformio rai blynyddoedd yn 么l gan yr hen Gwmni Theatr Cymru.
Tensiwn a ph诺er
Mae'n cael ei disgrifio fel drama o densiwn, p诺er a chynllwyn.
"Fel yn nram芒u Pinter yn gyffredinol mae'r ddrama'n ymwneud 芒 gwrthdaro chwyrn rhwng cymeriadau sydd mor groes 芒'i gilydd - dau frawd ac ymwelydd o dramp yn yr achos hwn - sy'n ceisio'u gorau glas i gael y gorau ar y naill a'r llall mewn geiriau a gweithred tra'n ceisio dod i delerau 芒'u gorffennol," meddai datganiad gan y Cwmni yn cyhoeddi manylion taith y ddrama.
Disgrifir y ddrama, un o eiconau y theatr Saesneg, fel un sy'n, "gymysgedd o realiti a'r abs岷價d ac wedi'i nodweddu 芒 seibiadau theatrig amwys, amseru doniol, eironi a bygythiad". Mae'n codi cwr y llen ar faterion astrus sy'n ymwneud 芒 hunaniaeth yr unigolyn wrth wynebu grymoedd cymdeithasol, iaith a throeon ar fyd.
Yr oedd hi'n ddiwedd y Chwedegau, pan oedd Pinter yn prysur ennill enw iddo'i hun, pan gyfieithodd y diweddar Elis Gwyn y ddrama.
Yn athro celf ym Mhwllheli ac yn frawd i'r dramodydd, W S (Wil Sam) Jones fe'ii cyfieithodd yn arbennig ar gyfer Cwmni Drama Amateur Theatr y Gegin Cricieth a sefydlwyd gan y ddau frawd.
"Cafwyd perfformiad proffesiynol hefyd o Y Gofalwr pan deithiodd Cwmni Theatr Cymru gyda chynhyrchiad clodwiw," meddai Rheolwr Marchnata Theatr Genedlaethol Cymru, Elin Williams.
"Roedd cynulleidfaoedd wrth eu boddau ac yn hynod falch gyda chyfieithiad o ddrama fodern glasurol Pinter yn eu hiaith eu hunain," ychwanegodd.
Cyfarwyddwr ac actorion
Cefin Roberts, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, sy'n cyfarwyddo'r cynhyrchiad presennol - un cyntaf y cwmni o waith Pinter - gyda Llion Williams, Rhodri Si么n a Carwyn Jones yn actio
Cynlluniwyd y set gan Sean Crawley.
"Mae Y Gofalwr hefyd yn deyrnged Theatr Genedlaethol Cymru i Harold Pinter ac Elis Gwyn fel ei gilydd - dau unigolyn gyfranodd cymaint i fyd y theatr," meddai Elin Williams.
"Heb os bydd cynulleidfa heddiw eto'n cael eu hudo gan eu gwaith ar un o ddram芒u mwyaf yr Ugeinfed Ganrif."
Bu farw Harold Pinter yn 2008 ac Elis Gwyn yn 1999.
Y Daith
Dyma fanylion taith y cynhyrchiad:
- Theatr Mwldan, Aberteifi (01239 621200) ac i'w gweld yno nosweithiau Iau, Gwener a Sadwrn, Chwefror 4-6 2010 gan ymweld wedyn 芒:
- Theatr Elli, Llanelli (0845 226 3510), ar nosweithiau Mawrth a Mercher, Chwefror 9-10, 2010.
- Canolfan Gelfyddydau Pontardawe (01792 863722) nos Wener, Chwefror 12.
- Theatr Glan yr Afon, Casnewydd (01633 656757), nos Iau, Chwefror 18.
- Neuadd Dwyfor, Pwllheli (01758 704088), nosweithiau Mercher, Iau, Gwener a Sadwrn, Chwefror 24-27.
- Theatr John Ambrose, Rhuthun, (01824 702575), nosweithiau Mawrth a Mercher, Mawrth 2-3.
- Canolfan Celfyddydau Aberystwyth (01970 623232) nosweithiau Gwener a Sadwrn, Mawrth 5-6.
- Theatr Felin-fach, Ceredigion (01570 470697), nosweithau Mawrth a Mercher Mawrth 9-10.
- Theatr Weston yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd (08700 40 2000), nosweithiau Gwener a Sadwrn, Mawrth 12-13.
Gellir cael manylion am weithgareddau ychwanegol sy'n cyd-fynd 芒'r daith o'r theatrau unigol neu oddi wrth Rheolwr Marchnata Theatr Genedlaethol Cymru, Elin Williams, ar 01267 245617.