Arlunydd a chynllunydd graffig o Israel luniodd boster enigmatig taith gyntaf Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru yn 2010.
Heb amheuaeth mae rhywbeth yn wefreiddiol yn y llun ymddangosiadol syml, ar yr olwg gyntaf, gan Noma Bar.
Y mae'n amhosib peidio a chael eich tynnu yn 么l ac yn 么l ato.
Yn enedigol o Israel, graddiodd Noma Bar yn academi gelf a dylunio Bezalel yn Jerusalem ac yna symud i Lundain lle mae'n cyflawni gwaith i gwsmeriaid ar hyd a lled y byd.
"Anfonodd nifer o gynlluniau a oedd yn darlunio Y Gofalwr i'r Theatr Genedlaethol a thasg anodd iawn oedd penderfynu pa un i ddewis," meddai Rheolwr Marchnata Theatr Genedlaethol Cymru, Elin Williams.
"Penderfynwyd i fynd am ddarlun y drws gan ei fod, mewn ffordd gynnil iawn, yn darlunio nifer o agweddau o'r ddrama ac yn cyfleu tensiwn, p诺er a chynllwynio, sydd yn thema gref yn y ddrama," ychwanegodd.
Mae Bar yn ddylunydd a chynllunydd graffig y cafodd ei ddarluniau trawiadol o rai o ffigurau mwyaf adnabyddus y byd gryn sylw yn ddiweddar.
Mae ei waith mwyaf adnabyddus yn cynnwys darlunio'r enwebyddion i wobrau BAFTA 2009 a llun o Saddam Hussain.
Cyhoeddodd ddau lyfr, Guess Who - The Many Faces of Noma Bar' a 'Negative Space.