91Èȱ¬

Medi 2011

Rhan o glawr Y Daith

Rhestr Cyngor Llyfrau Cymru o'r llyfrau a werthodd orau.

Nofel nad oedd yr awdur am ei sgrifennu sydd ar ben rhestr Cyngor Llyfrau Cymru o'r cyfrolau a werthodd orau yn ystod Medi 2011.

Amlygodd Lloyd Jones, awdur Y Daith, ei hun fel un o nofelwyr mwyaf cyffrous Cymru gyda'i nofel Gymraeg gyntaf, Y Dŵra gyhoeddwyd ddwy flynedd yn ôl.

Yr oedd eisoes wedi cyhoeddi nofelau yn y Saesneg - ac ennill gwobrau efo nhw - ond ar ôl cyhoeddi Y Dŵrdywedodd na fyddai byth yn ysgrifennu nofel arall.

"Mi fyddai'n 58 oed cyn bo hir a dwi eisiau blasu bywyd cymaint ag y galla i," meddai ar y pryd.

"Dwi'n mwynhau tynnu llun, ac yn bwriadu mynd ar gwrs celf dros y gaeaf, felly dwi am drio symud i gyfeiriad arall rŵan a gweld y byd cymaint ag y galla i," ychwanegodd.

Bellach, profiodd na ellir cadw nofelydd da yn ddistaw ac wele'r Lolfa yn cyhoeddi ei ail nofel Gymraeg, Y daith.

"Nofel ffraeth ac athrylithgar sy'n cyffwrdd ar ei brofiadau ei hun wrth oroesi alcoholiaeth a chanfod achubiaeth wrth gerdded," meddai'r wasg amdani.

Yn y nofel, mae Mog a Meg Morgan yn byw mewn paradwys, ond fe chwelir llonyddwch y cartref gan ymddangosiad dyn a dynes ifanc yn chwilio am antur. Dyn mewn crisis yw Mog a phan mae Meg yn diflannu cred y bydd yn rhaid iddo ddod o hyd i'w atebion ei hun, nes cyfarfod Heledd a chychwyn ar daith newydd.

"Roeddwn i methu cau fy mhig!" meddai Lloyd am ei benderfyniad i fynd nôl i sgrifennu. "Roeddwn i'n meddwl bod y llosgfynydd y tu mewn i mi wedi oeri, ond wele lif newydd yn byrlymu i'r wyneb."

Rhywbeth fydd yn destun diolch i'r rhai sydd wedi mwynhau ei weithiau blaenorol yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Dyma'r siart yn llawn:

Llyfrau i oedolion

  1. Y Daith, Lloyd Jones (Y Lolfa) 9781847713261 £7.95


  2. Cythral o Dân - Cofio 75 Mlynedd Ers Llosgi'r Ysgol Fomio, Arwel Vittle. (Y Lolfa) 9781847713926 £7.95


  3. Pen Llŷn Harri Parri, Harri Parri. (Gwasg y Bwthyn) 9781907424151 £14.95
  4. I Ble'r Aeth Haul y Bore? Eirug Wyn. (Y Lolfa) 9780862434359 £5.95


  5. Cadw Drws, Meirion Evans. (Gwasg Gomer) 9781848514157 £6.99


  6. Tarian Tywi - Cofiant y Parch Tywi Jones, Noel Gibbard (Gwasg y Bwthyn) 9781907424168 £8.95


  7. Cyfres y Cewri: 34. Siân James, Siân James. (Gwasg Gwynedd) 9780860742722 £7.95


  8. Traed Mewn Cyffion, Kate Roberts. (Gwasg Gomer) 9780863834806 £7.99


  9. Caneuon Ffydd - Geiriau'n Unig. (Pwyllgor Caneuon Ffydd) 9781903754009 £12.95


  10. Cyfrolau Cenedl: 2. Twm o'r Nant - Dwy Anterliwt; Cyfoeth a Thlodi a Tri Chydymaith Dyn, Thomas Edwards. (Dalen Newydd) 9780956651624 £15.00

Llyfrau Plant

  1. Gwyddoniadur Darluniau Cyntaf i Blant Rily Publications) 9781904357896 £9.99


  2. Straeon Dau Funud, Gill Guile. (Gwag Carreg Gwalch) 9781845273552 £6.95


  3. Santa Swnllyd, Sam Taplin. (Gwasg Gomer) 9781848513914 £9.99


  4. Straeon Nadolig Hudolus, Maureen Spurgeon, Gill Davies (Gwag Carreg Gwalch) 9781845273507 £6.95


  5. Cerddi Storïol Carreg Gwalch. (Gwag Carreg Gwalch) 9781845273231 £6.95


  6. Seren Iaith - Gloywi Iaith i Bawb, Bethan Clement, Nona Breese. (Atebol) 9781907004858 £5.99


  7. Hanes Atgas: Dihirod Diflas a Chymeriadau Chwithig, Catrin Stevens. (Gwasg Gomer) 9781848513785 £5.99


  8. Cymry Cyflym, Robin Lawrie, Chris Lawrie. (Gwasg Carreg Gwalch) 9781845273200 £6.95


  9. Un Noswyl Nadolig, M. Christina Butler. (Gwasg Gomer) 9781848513778 £5.99


  10. Stori'r Nadolig - Peintio Hud. (Cyhoeddiadau'r Gair) 9781859946978 £5.99

A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 91Èȱ¬ Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

91Èȱ¬ iD

Llywio drwy’r 91Èȱ¬

91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.